Dysgwyr ffotograffiaeth, celf a chyfryngau Coleg Gwent yn dal delweddau syfrdanol ar ymweliad Erasmus+ â Tenerife

Erasmus Coleg Gwent - Tenerife.jfif

Rhoddodd ymweliad diweddar Coleg Gwent â Tenerife trwy raglen Erasmus+ gyfle i ddysgwyr nid yn unig ddatblygu eu sgiliau ffotograffiaeth ond hefyd i deithio a phrofi diwylliant gwlad wahanol. 

Erasmus+ yw rhaglen yr UE i gefnogi addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yn Ewrop. Mae rhaglenni symudedd rhyngwladol wedi cael eu cydnabod ers tro byd fel rhai hanfodol i roi cyfle i ddysgwyr a staff fel ei gilydd gael profiad o ymweliadau na fyddent yn gallu eu gwneud fel arall. 

Roedd ynys Ddedwydd Tenerife yn lleoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd ffotograffiaeth. Defnyddiodd y dysgwyr technegau newydd i ddal y tirweddau darluniadol, a oedd yn ei dro wedi’u hysbrydoli i ystyried yr hyn yr hoffent ganolbwyntio arno yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Roedd yr hyder a gafwyd yn sgil yr ymweliad hwn dramor yn amlwg wrth sgwrsio â’r bobl ifanc, gydag un dysgwr yn nodi ei fod wedi datblygu fel person a theimlai fod y profiad hefyd wedi helpu i ddod â’r grŵp at ei gilydd a meithrin perthnasoedd newydd. 

Roedd uchafbwynt arbennig yn cynnwys sesiwn ffotograffiaeth gyda’r nos ar ben Parc Cenedlaethol Mount Teide lle dysgwyd sut i dynnu lluniau llonydd o’r sêr wrth i’r ddaear gylchdroi. Roedd yr amynedd a’r llygad am ddod o hyd i’r foment gywir yn gromlin ddysgu serth i grŵp Parth Dysgu Torfaen ond yn un a fydd wedi eu helpu i ddatblygu eu sgiliau’n aruthrol. Roedd digon o amser hefyd i ymlacio gyda hanesion am snorclo, heicio ac ymweld â’r ynys o gatamaran! 

Wrth siarad â’r myfyrwyr, dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran,

“Mae’n braf iawn gweld faint ohonoch a ddaeth ynghyd gan ymweliad Erasmus+. Rwy’n gobeithio y bydd eich profiad yn mynd ymlaen i ysbrydoli eraill i fachu ar y cyfleoedd hyn yn y dyfodol. Mae’n amlwg faint rydych chi i gyd wedi’i ennill o’r daith hon a dyna pam ei bod mor bwysig i ni annog dysgwyr i gymryd rhan mewn rhaglenni symudedd rhyngwladol.” 

Gwybodaeth Bellach 

Cysylltwch â'n Rheolwr Prosiect Rhyngwladol Siân Holleran i drafod y cyfleoedd sydd ar gael i'ch coleg ar un o'r rhaglenni symudedd tramor sydd ar gael.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.