Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn arwain ar gyflwyno cyfleoedd datblygu tramor i ddysgwyr a staff mewn addysg bellach. Gwneir y cyfleoedd hyn yn bosibl trwy raglenni symudedd a ariennir fel rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Taith, a rhaglen cyfleoedd rhyngwladol Llywodraeth y DU, Cynllun Turing.
“Mae treulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli, yn hyfforddi neu ar leoliadau gwaith dramor yn ehangu gorwelion, yn ehangu sgiliau allweddol ac yn dod â buddion nid yn unig i gyfranogwyr unigol ond hefyd i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru. Anogir ColegauCymru y gall pobl ifanc o bob cefndir elwa o’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael drwy’r rhaglenni gwahanol hyn.”
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru
Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn genedl allblyg drwy hwyluso cyfranogiad colegau addysg bellach mewn prosiectau symudedd a phartneriaethau tramor. Mae ColegauCymru yn hwyluso cyfranogiad ein haelodau trwy geisiadau ar y cyd ar draws Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi colegau i gyflwyno ceisiadau ariannu eu hunain.
Mae gan ColegauCymru Rhyngwladol rwydwaith cadarn o bartneriaid ledled y byd yr ydym yn cydweithio â nhw i gynnig cyfleoedd cyfoethogi a gwella rhyngwladol i ddysgwyr a staff. Rydym hefyd yn annog ymweliadau cyfatebol fel bod ein partneriaid yn gallu dod i Gymru i astudio, hyfforddi ac i rannu arfer da.
Cysylltwch
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
Vicky Thomas, Swyddog Prosiect
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk
Tudalennau Cysylltiedig