Ein gweledigaeth yw addysg o'r radd flaenaf i Gymru. Ein cenhadaeth yw dangos gwerth addysg bellach i bob dysgwr, y gymdeithas a'r economi. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n rhanddeiliaid. Ond dim ond gydag ymrwymiad a gwaith caled ein tîm rhagorol o staff y gallwn wneud hyn.
Mae ColegauCymru yn cynnwys tîm bach o unigolion brwdfrydig a medrus ac mae gan y sefydliad brofiad helaeth yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
Elusen addysg ôl-16 yw ColegauCymru. Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o'r radd flaenaf, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector addysg bellach sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.
Swyddog Prosiectau - Chwaraeon a Lles Actif
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu
Contract: Llawn amser, parhaol
Cyflog: £31,486 i £35,199, yn amodol ar gynnydd mewn costau byw o 1 Awst 2026
Lleoliad: Cyfuniad o weithio yn y swyddfa (Caerdydd) a gweithio gartref gydag o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa neu mewn digwyddiadau/gemau/cyfarfodydd yn ôl gofynion y rôl.
Dyddiad Cau: 20 Awst 2026
Pwrpas y Swydd
- Datblygu a rheoli amrywiaeth o brosiectau a gynhaliwyd gan ColegauCymru i gefnogi ein blaenoriaethau strategol ar gyfer Chwaraeon a Lles Actif.
- Cynrychioli ColegauCymru mewn perthynas â phrosiectau Chwaraeon a Lles Actif ac i ddatblygu a gwella ein perthnasoedd strategol.
- Rheoli cyllidebau prosiectau, olrhain cynnydd yn erbyn targedau prosiect ac adrodd risgiau i’r Uwch Dîm Reoli.
- Sicrhau cyflawniad prosiectau yn amserol, cyfathrebu clir a chanlyniadau llwyddiannus.
- Cynhyrchu adroddiadau cynnydd rheolaidd i Uwch Dîm Reoli, Fforwm y Penaethiaid a Bwrdd ColegauCymru, yn ôl yr angen.
Prif Ddyletswyddau
- Arwain, rheoli a gwerthuso prosiectau presennol, gan gynnwys goruchwylio cyllidebau, amserlenni a gweithdrefnau sicrhau ansawdd
- Gweithredu fel y prif gyswllt ynghylch ymholiadau prosiect Chwaraeon a Lles Actif
- Datblygu cynigion prosiectau, cynllunio amserlenni cyflawni ac olrhain cynnydd yn erbyn cyflawniadau
- Cynllunio, monitro ac adrodd ar wariant cyllideb yn erbyn proffil a datblygu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw risgiau a nodwyd
- Cymryd cyfrifoldeb am gyfathrebu cynnydd, tynnu sylw at risgiau a chymryd camau mewn modd amserol i sicrhau cydymffurfiaeth
- Cymryd rôl ragweithiol wrth gyfathrebu â thîm ColegauCymru ar ofynion cymorth, cydlynu cynlluniau cyflawni ac ysgrifennu adroddiadau gwerthuso
- Darparu diweddariadau rheolaidd i'r Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu Strategol, gan gynnwys tynnu sylw at bryderon posibl yn gynnar
- Cynrychioli ColegauCymru mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol sy'n ymwneud â phrosiectau perthnasol ledled Cymru, ac weithiau ymhellach i ffwrdd
- Gwneud cyflwyniadau i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol ar ganlyniadau ac effaith prosiectau
- Datblygu a chynnal dealltwriaeth gadarn o ddarparu addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith
- Datblygu a chynnal dealltwriaeth o'r cyddestun polisi cyhoeddus y mae ColegauCymru a'i randdeiliaid yn gweithredu ynddo
- Cyfrannu at amcanion strategol a gweithredol y Tîm datblygu o fewn ColegauCymru
- Ymgynnull a chydlynu rhwydweithiau perthnasol ColegauCymru, grwpiau gorchwyl a gorffen a choladu a lledaenu gwybodaeth allweddol sy'n deillio o'r cyfarfodydd
- Trefnu, mynychu a darparu cymorth mewn digwyddiadau Tîm datblygu
- Cydymffurfio â chyfrinachedd a sicrhau bod data sensitif yn cael ei brosesu yn unol â gweithdrefnau Diogelu Data
- Ymgymryd â dyletswyddau priodol eraill fel y cyfarwyddir gan y Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu Strategol
Gweithio i ColegauCymru - Gwybodaeth Ychwanegol
Gofynion Iaith Gymraeg
Mae ColegauCymru yn sefydliad dwyieithog balch ac mae sgiliau Cymraeg yn cael eu hystyried o fudd i'r sefydliad. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu gweithlu dwyieithog ac yn annog a chefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Byddai'r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn fantais ac yn sgil dda i'w gael ar gyfer y rôl ond nid yw'n hanfodol. Beth bynnag fo'r lefel o hyfedredd yn y Gymraeg, rhoddir cymorth hefyd i ddatblygu eich sgiliau iaith ac i ddod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â ColegauCymru i drafod y gofyniad hwn. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Y Broses Ymgeisio
Anfonwch CV a llythyr eglurhaol sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni pob agwedd ar y Fanyleb Person. Yn ogystal, er mwyn ystyried eich cais, atebwch y tri chwestiwn isod (uchafswm o 200 gair fesul cwestiwn).
- Pa sgiliau ydych chi'n meddwl sydd eu hangen ar Swyddog Prosiect Chwaraeon a Lles Actif i fod yn llwyddiannus?
- Beth ydych chi'n credu yw'r ffactorau pwysicaf wrth gyflawni prosiect chwaraeon neu les actif yn llwyddiannus ar gyfer y sector addysg bellach?
- Beth ydych chi'n meddwl yw manteision mentrau chwaraeon neu les actif ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru, a sut fyddech chi'n gwerthuso llwyddiant?
Gwiriad Datgelu DBS
Sylwch y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad DBS.
Dyddiad Cau
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i HR@colegaucymru.ac.uk erbyn 5.00yp ar ddydd Iau 20 Awst fan bellaf.
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os ydym yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ddydd Gwener 28 Awst 2026, yn bersonol yn swyddfa ColegauCymru. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost i: HR@colegaucymru.ac.uk.