Tîm ColegauCymru
Staff

Prif Weithredwr
David Hagendyk
Amdan David Hagendyk
David.Hagendyk@ColegauCymru.ac.uk
Mae David wedi gweithio mewn swyddi arwain, ymgyrchu a datblygu polisi yng Nghymru am y deunaw mlynedd diwethaf. Ymunodd â ColegauCymru ym mis Hydref 2022, ar ôl treulio saith mlynedd yn Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru fel Cyfarwyddwr Cymru.
Cyn ymuno â Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, bu hefyd yn gweithio am saith mlynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru. Cyn hyn bu’n Swyddog Cyswllt Gwleidyddol ar gyfer Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru, fel Pennaeth Polisi Llafur Cymru, ac mae wedi gweithio fel ymchwilydd i Huw Lewis AC a Lynne Neagle AC.

Cyfarwyddwr Cyllid
Carolyn Thomas
Amdan Carolyn Thomas
Carolyn.Thomas@ColegauCymru.ac.uk
Mae Carolyn wedi gweithio yn y sector addysg bellach er 1991, wedi cyfnod yn gweithio fel cyfrifydd coleg bach.
Mae hi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid ColegauCymru ers 2004 ac mae'n gymrawd o'r ACCA.

Cyfarwyddwr Datblygu
Kelly Edwards
Amdan Kelly Edwards
Kelly.Edwards@ColegauCymru.ac.uk
Mae Kelly yn arwain Rhaglen Ddatblygu ColegauCymru gyda’r uchelgais o gyfoethogi'r profiad dysgu a gwella canlyniadau dysgu ar gyfer y sector addysg bellach. Mae hi’n gweithio gyda’r Fforwm Penaethiaid a Phrif Weithredwyr a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr i sicrhau bod y Rhaglen yn cyd-fynd â gweledigaeth a chenhadaeth yr elusen.

Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel Cable
Amdan Rachel Cable
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk
Mae Rachel Cable yn arwain Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, gan sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd ag amcanion strategol y sefydliad.
Cyn ymuno ColegauCymru, treuliodd Rachel 15 mlynedd yn gweithio ym maes polisi, ymgyrchoedd ac eiriolaeth yng Nghymru, gan gynnwys i Prifysgolion Cymru, a chydlynu ymgyrchoedd ar gyfer Aelod Seneddol. Bu Rachel hefyd yn bennaeth tîm amlddisgyblaethol Oxfam Cymru ar draws polisi, eiriolaeth, y cyfryngau, ac addysg, gan gynnwys cadeirio’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau Cymru.
Ochr yn ochr â’r rolau hyn, mae Rachel yn llywodraethwr ysgol ac wedi gweithredu fel ymddiriedolwr elusen ar gyfer undeb myfyrwyr.


Rheolwr Prosiect - Ewropeaidd a Rhyngwladol
Siân Holleran
Amdan Siân Holleran
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
Ymunodd Siân â CholegauCymru fel Cydlynydd Ewropeaidd a Rhyngwladol ym mis Tachwedd 2010. Mae ei phrif feysydd gwaith yn cynnwys cydlynu rhaglen o gyfleoedd hyfforddiant tramor i staff, dysgwyr a phrentisiaid, gan weithredu dros Lywodraeth Cymru fel Pwynt Cyswllt Cenedlaethol ar gyfer mentrau'r UE a gwerthu Cymru i'r byd trwy weithio ar y cyd gyda phartneriaid rhyngwladol.
Mae Siân yn rhugl mewn Ffrangeg, Sbaeneg a Chymraeg. Gynt bu'n gweithio i CILT Cymru, y ganolfan genedlaethol ar gyfer ieithoedd, gan hyrwyddo dysgu ieithoedd modern fel sgil gwerthfawr i bobl ifanc mewn byd sy'n gynyddol fyd-eang. Mae Siân yn parhau i rannu ei chariad at ieithoedd a diwylliannau gwledydd eraill trwy hyrwyddo buddion treulio cyfnodau o amser yn astudio neu'n gweithio dramor i bobl ifanc. Mae hi hefyd yn cynrychioli'r sector addysg bellach ar y grŵp llywio Llwybrau i Ieithoedd Cymru.

Rheolwr Prosiect - Chwaraeon a Lles
Rob Baynham
Amdan Rob Baynham
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector addysg bellach, mae Rob wedi bod yn ymwneud ag amrywiaeth eang o fentrau a phrosiectau rhanbarthol a chenedlaethol gyda’r ffocws presennol yn symud tuag at ddatblygu Lles Actif a chyfleoedd chwaraeon mewn addysg bellach.
Fel Rheolwr Prosiect ar gyfer Lles Actif ar gyfer addysg bellach yng Nghymru, mae cyfrifoldebau Rob yn cynnwys rheoli Chwaraeon Colegau Cymru a datblygu cyfranogiad, gwirfoddoli a llwybrau chwaraeon i fyfyrwyr. Ers i Rob ymuno â ColegauCymru yn 2014, mae 4,000+ o ddysgwyr addysg bellach ychwanegol y flwyddyn wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd newydd ar fentrau amrywiol gyda phartneriaethau, digwyddiadau, systemau a phrosiectau newydd yn cael eu cyflwyno.
Mae codi proffil chwaraeon Addysg Bellach a Lles Actif yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y gwaith hwn.

Swyddog Cyllid
Gill Barclay
Amdan Gill Barclay
Gill.Barclay@ColegauCymru.ac.uk
Mae Gill yn gweithio fel Swyddog Cyllid ColegauCymru. Yn ychwanegol i'r rôl hon, mae hi'n darparu cymorth technoleg gwybodaeth ac yn rheoli cyfleusterau'r sefydliad.

Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (AB)
Chris Denham
Amdan Chris Denham
Chris.Denham@ColegauCymru.ac.uk
Dechreuodd Chris ei yrfa'n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn Surrey, cyn cwblhau ei Dystysgrif Addysg yng ngholeg Polytechneg Huddersfield ac yna symud i Bont-y-pŵl ar gyfer swydd ddarlithio yn adran dechnoleg y coleg. Roedd Chris yn allweddol i sefydliad y cyrsiau cyswllt anghenion arbennig cyntaf gydag Ysgol Arbennig Crownbridge ar ddiwedd y 1980au ac ar ôl rhywfaint o ailhyfforddi, datblygodd raglen anghenion arbennig amser llawn, newydd ym Mhont-y-pŵl. Wrth i'r ddarpariaeth hon dyfu, cydnabu'r angen am gymorth yn y prif ffrwd ac felly ennillodd gymhwyster ychwanegol mewn anawsterau dysgu penodol a sefydlodd ganolfan gymorth yn y coleg.
Ar ôl ymgorffori a chreu Coleg Gwent, gwnaeth Chris sawl swydd reoli cyn derbyn swydd Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Ngholeg Gwent yn 2014. Yn ystod y cyfnod hwn, cynrychiolodd y coleg hefyd ar Rwydwaith ADY ColegauCymru, gan gyflawni rôl Cadeirydd o 2014.
Mae Chris wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd diwethaf i helpu i lunio Deddf a Chôd Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET). Derbyniodd ei swydd bresennol gyda CholegauCymru ym mis Ionawr 2018 ac mae'n parhau i gefnogi colegau yng Nghymru wrth iddynt baratoi i weithredu ALNET.


Rheolwr Cyfathrebu
Lucy Hopkins
Amdan Lucy Hopkins
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk
Mae Lucy' rheoli ein gweithgareddau cyfathrebu a marchnata, yn unol ag amcanion strategol y sefydliad. Mae hi'n sicrhau bod ein cyfathrebiadau yn ddylanwadol, yn addysgiadol ac yn briodol i'n rhanddeiliaid.


Swyddog Polisi
Amy Evans
Amdan Amy Evans
Graddiodd Amy o Brifysgol Abertawe yn 2011 gyda gradd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu. Yn dilyn 5 mlynedd yn y sector manwerthu, ymunodd â CholegauCymru fel Derbynnydd. Ym mis Mai 2017, dechreuodd rôl fel Cynorthwyydd Materion Cyhoeddus ac ers mis Mawrth 2020 mae wedi bod yn gweithio fel ein Swyddog Polisi. Mae Amy yn siaradwr Cymraeg rhugl.


Cynorthwyydd Gweinyddol Gweithredol
Rachel Rimanti
Amdan Rachel Rimanti
Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Gyda 10 mlynedd o brofiad gweinyddol, Rachel yw Cynorthwyydd Gweithredol y Prif Weithredwr ac mae'n darparu cefnogaeth weinyddol i'r sefydliad. Mae hi’n rheoli cyfarfodydd allweddol gan gynnwys y Fforwm Penaethiaid a Phrif Weithredwyr.

Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus
Jamie Adair
Amdan Jamie Adair
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk
Ymunodd Jamie â thîm Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru o Gymdeithas Chwaraeon Cymru ym mis Ebrill 2022. Cyn hyn, graddiodd o Brifysgol Abertawe gydag MA mewn Gwleidyddiaeth a BA mewn Hanes.
Ei rôl yw cynrychioli sefydliadau addysg bellach ar lwyfan cenedlaethol, gan weithio’n agos ag Aelodau Seneddol a Swyddogion Llywodraeth Cymru, gan wneud gwaith ymchwil a dadansoddi i helpu i ddatblygu argymhellion polisi cyhoeddus.
Mae Jamie yn ddeiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed Abertawe ac mae'n ddilynwr chwaraeon brwdfrydig. Mae’n dilyn pêl-droed, tennis, dartiau, golff, snwcer a Fformiwla 1.

Cynorthwyydd Gweinyddol
Vicky Thomas
Amdan Vicky Thomas
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk
Mae rôl Vicky fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn cynnwys darparu cymorth gweinyddol i’r tîm Datblygu ar draws amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys prosiectau rhyngwladol, Chwaraeon a Lles, Dysgu Seiliedig ar Waith ac ADY.

Cynghorydd Strategol - DSW a Chyflogadwyedd
Jeff Protheroe
Amdan Jeff Protheroe
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk
Jeff yw'r pwynt cyswllt allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff perthnasol eraill yn y sector. Mae’n cefnogi’r sefydliad i lunio ymatebion sector i gynigion polisi gan gynnwys newidiadau i ffrydiau ariannu, diwygio cymwysterau, datblygu’r cwricwlwm a chyfrannu at adolygiadau fframwaith prentisiaeth. Mae’n gwneud ymchwil i lunio a dylanwadu ar bolisi ac yn datblygu cysylltiadau agos ag arweinwyr mewn colegau i optimeiddio cydweithio ac atebion arloesol. Mae Jeff hefyd yn cynnull gweithgorau ac yn arwain ar ddatblygu a chyflwyno ceisiadau grant a chynigion perthnasol eraill am gyllid ar ran y sector AB i wella canlyniadau DYYG a chyflogadwyedd.

Cynorthwyydd Gweinyddol
Charley Green
Amdan Charley Green
Mae Charley yn ymuno ColegauCymru fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn dilyn ei hymadawiad diweddar o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle cwblhaodd ei gradd israddedig mewn Perfformio Cerddoriaeth.
Ei rôl yw darparu cefnogaeth uniongyrchol i’r Tîm Datblygu ac yn benodol i Chwaraeon ColegauCymru lle mae’n helpu gyda i weinyddu digwyddiadau a phrosiectau ledled Chwaraeon Colegau Cymru a Lles Actif.
Y tu allan i'r gwaith, mae Charley yn mwynhau chwarae cerddoriaeth gyda Band Catrodol y Cymry Brenhinol, heicio Pen-y-fan i wylio'r wawr ac archwilio lleoedd newydd.

Prif Swyddog Polisi Adnoddau Dynol
Kay Leigh
Amdan Kay Leigh
Mae gan Kay profiad dros 30 mlynedd ym maes Adnoddau Dynol ac mae’n dod â’i phrofiad a’i gwybodaeth i gefnogi ColegauCymru mewn sawl prosiect sy’n ymwneud ag AD. Y tu allan i'r gwaith mae Kay yn cadw'n heini yn y gampfa ac hefyd, ioga a pilates. Mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg a Sbaeneg.