ColegauCymru yn croesawu cyhoeddiad am raglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol newydd i wneud iawn am golli Erasmus+

CPGGraphic.png

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen cyfnewidfa dysgu rhyngwladol newydd, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu'n ôl o gynllun poblogaidd Erasmus+.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,

“Rydyn ni'n falch o groesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru. Mae gwerth rhaglenni cyfnewid rhyngwladol wedi bod yn hysbys ers tro yn y sector addysg bellach, gan ddarparu cyfleoedd i ehangu gorwelion y cyfranogwyr sydd, yn ei dro, yn cael effaith gadarnhaol ar unigolion, colegau a'r gymuned ehangach. Bydd y sicrwydd hwn hefyd yn ein galluogi i gynnal ac adeiladu ar ein perthynas â phartneriaid tramor."

Ychwanegodd Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran,

“Mae rhaglenni tramor fel y rhain yn darparu cyfleoedd gwych i ddysgwyr a staff. Mae'n arbennig o galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu'r cyfleoedd hyn dros y tymor hir. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu dull mwy strategol tuag at ein gwaith rhyngwladol ac archwilio rhyngwladoli yn ehangach yn y sector addysg bellach yng Nghymru.”                                

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol newydd i wneud iawn am golli Erasmus+
21 Mawrth 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.