Mae aelodau Bwrdd ColegauCymru yn gwasanaethu fel ymddiriedolwyr Elusennau a Chyfarwyddwyr y Cwmni Cyfyngedig trwy Warant. Mae aelodaeth y bwrdd yn annibynnol o’r corff cynrychioliadol, Fforwm y Penaethiaid a Phrif Weithredwyr, ond mae'n gweithio'n agos ag ef i gyflawni cenhadaeth strategol yr elusen. Mae'r gwaith yn cynnwys hyrwyddo addysg, hyfforddiant, sgiliau a chanlyniadau o'r radd flaenaf ar gyfer pob dysgwr ôl-16 yng Nghymru. Rhaid i bob Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr a benodir parhau yn y swydd am gyfnod cychwynnol o dair mlynedd a defnyddio eu profiad personol a phroffesiynol i gefnogi'r Prif Weithredwr a staff ColegauCymru Cyf.
Ein Bwrdd
Prif Weithredwr a Phennaeth, Y Coleg Merthyr Tydfil
Lisa Thomas, Cadeirydd
Amdan Lisa Thomas, Cadeirydd
Wedi ei phenodi: Awst 2024
Wedi’i phenodi’n Bennaeth a Phrif Weithredwr yng Ngholeg Merthyr Tudful ym mis Medi 2018, ymunodd Lisa â’r sector AB fel Pennaeth Cynorthwyol ym mis Medi 2012. Mae Lisa yn athrawes gymwysedig ac mae ganddi Radd Meistr mewn Addysg. Gan ddechrau ei gyrfa fel athrawes Hanes ym 1993 mae gan Lisa dros 25 mlynedd o brofiad o rolau arwain a rheoli o fewn addysg uwchradd ac addysg bellach a llywodraeth leol. Fel aelod o Golegau Cymru, mae Lisa wedi cynrychioli’r sector ar nifer o weithgorau Llywodraeth Cymru ac wedi chwarae rhan ddylanwadol wrth lunio polisi’r llywodraeth ar y sector AB yng Nghymru. Mae hi hefyd yn arolygydd cymheiriaid profiadol ESTYN.
Prif Weithredwr a Phennaeth, Coleg Sir Gar / Coleg Ceredigion
Dr Andrew Cornish, Is-Gadeirydd
Amdan Dr Andrew Cornish, Is-Gadeirydd
Wedi ei benodi: Awst 2024
Mae Andrew wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion am y chwe blynedd diwethaf. Mae wedi gweithio ym maes Addysg Bellach ers deng mlynedd ar hugain a daliodd nifer o wahanol swyddi rheoli ac uwch swyddi yn y Coleg yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hefyd wedi gweithio fel Asesydd Cymheiriaid gydag Estyn ers bron i 25 mlynedd, yn asesu safonau colegau Addysg Bellach eraill ledled Cymru.Mae Andrew hefyd yn Gadeirydd Grŵp Rhyngwladol ColegauCymru.
Cadeirydd Coleg y Cymoedd
Dr Paul Smart
Amdan Dr Paul Smart
Ymunodd: Ionawr 2021
Ar ôl graddio gyda BSc a PhD mewn Peirianneg, cychwynnodd Paul ei yrfa mewn Ymchwil Weithredol yn y diwydiannau nwy a dur. Yn dilyn hynny, ymunodd â ffatri weithgynhyrchu cwmni cosmetig rhyngwladol yn y DU lle bu'n gweithio fel Rheolwr Cynhyrchu a Phennaeth Adnoddau Dynol. Wedi hynny, cymerodd swydd ym mhencadlys y cwmni fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y DU ar gyfer Gweithrediadau, Cadwyn Gyflenwi, Cyllid a TG.
Yn dilyn 37 mlynedd gyda’r cwmni, mae Paul bellach wedi ymddeol ond yn dal i weithio rhan amser fel Rheolwr Cyswllt Pensiwn y cwmni ac fel Ymddiriedolwr Cronfa Bensiwn. Mae Paul wedi bod yn Llywodraethwr nifer o golegau addysg bellach dros gyfnod o fwy nag 20 mlynedd.
Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd
Dr Rhiannon Evans
Amdan Dr Rhiannon Evans
Ymunodd: Tachwedd 2021
Mae Dr Rhiannon Evans yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n aelod o'r tîm rheoli gweithredol yng nghanolfan ymchwil DECIPHer, sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.
Mae ganddi arbenigedd methodolegol helaeth mewn ymchwil gwerthuso ymyrraeth, yn enwedig mewn lleoliadau addysgol. Mae ei diddordebau ymchwil sylweddol yn canolbwyntio ar hybu iechyd meddwl a lles, yn ogystal ag atal hunan-niweidio a hunanladdiad.
Mae Rhiannon wedi arwain a chefnogi gwerthusiadau cenedlaethol o wasanaethau iechyd meddwl yn seiliedig ar addysg, gan gynnwys hyfforddiant MHFA ar gyfer staff ysgolion uwchradd a darpariaeth gwnsela. Mae ganddi ffocws penodol ar anghydraddoldebau addysgol ac iechyd, yn enwedig canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal.
Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Vicky Jones
Amdan Vicky Jones
Ymunodd: Awst 2024
Mae Vicky yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau ar draws y sefydliad dros y pymtheng mlynedd diwethaf. O fewn ei phortffolio presennol mae’n gyfrifol am farchnata, cyfathrebu, cysylltiadau’r Llywodraeth, ymgysylltu â’r cyhoedd, safonau’r Gymraeg, partneriaethau a chenhadaeth ddinesig.
Gan weithio o fewn cyd-destun pedair gwlad y brifysgol, mae Vicky yn aelod o’r uwch dîm rheoli, yn cynrychioli Cymru ar grŵp uwch arweinwyr marchnata a chyfathrebu’r DU gyfan ac wedi’i phleidleisio ar y Senedd, un o bwyllgorau allweddol yn strwythur llywodraethu’r Brifysgol Agored.
Cadeirydd y Corff Llywodraethol, Coleg Sir Benfro
Iwan Thomas
Amdan Iwan Thomas
Ymunodd: Awst 2024
Ar hyn o bryd, Iwan yw Prif Swyddog Gweithredol PLANED, sefydliad datblygu cymunedol sydd wedi bod yn weithredol yn Sir Benfro ers dros 35 mlynedd, ac o dan ei ddeiliadaeth, mae bellach wedi ehangu i Sir Gaerfyrddin a Cheredigion gyda chefnogaeth y weledigaeth newydd o ‘Grymuso Cymunedau’.
Cyn ymuno â PLANED, bu Iwan yn Rheolwr Rhaglen Rhanbarthol ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru am bum mlynedd yn arwain ar eu portffolio Sgiliau a Chyflogaeth.
Yn ogystal â Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes, mae Iwan yn dod â dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y trydydd sector a’r sector cyhoeddus ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â llawer o bobl, sefydliadau a phrosiectau gwych.
Sylfaenydd, BE. Xcellence
Donna Ali
Amdan Donna Ali
Ymunodd: Awst 2024
Donna Ali yw sylfaenydd gweledigaethol BE.Xcellence, Cwmni Buddiannau Cymunedol sydd â chenhadaeth i wella cynrychiolaeth unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi dylanwadol. Mae ei thaith ryfeddol wedi’i nodi gan glod a mentrau sydd wedi’u hanelu at feithrin amrywiaeth a chynhwysiant. Yn 2022, derbyniodd Donna wobr fawreddog 'Cyflawniad Eithriadol' gan Adran Entrepreneuriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gan gydnabod ei hymrwymiad i amrywiaeth. Enillodd hefyd wobr Hanes Pobl Dduon Cymru yn yr un flwyddyn a pharhaodd â’i thaith drwy ennill gwobrau rhanbarthol a chenedlaethol am amrywiaeth a chynhwysiant yn 2023 yng ngwobrau’r FBS.