Internationalisation Page Website Banner.png

"Mae rhyngwladoli yn y sector sgiliau yn ymwneud â newid bywydau"

Rhyngwladoli'r Sector Sgiliau, y Cyngor Prydeinig, Mehefin 2017

Yn 2020/21 comisiynodd ColegauCymru ymchwil i ryngwladoli yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Un o argymhellion allweddol yr adroddiad ymchwil dilynol oedd ‘ffurfioli ymrwymiad y sector i gydweithredu rhyngwladol trwy ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y sector fel bod rhyngwladoli, yn y tymor hir, yn cael ei ymgorffori yn y cwricwlwm addysg bellach’.


Darllenwch yr Adroddiad 
Rhyngwladoli yn y sector AB yng Nghymru
Ymchwil Arad, Mai 2021

“Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn ymrwymo i ddatblygu argymhellion yr adroddiad gyda chefnogaeth ac arweiniad Grŵp Rhyngwladol strategol sydd newydd ei ffurfio. Bydd hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Andrew Cornish, Pennaeth Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cynllun rhyngwladol strategol ar gyfer y sector.”

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru Rhyngwladol


Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn cefnogi rhyngwladoli'r sector addysg bellach yng Nghymru mewn sawl ffordd:

  • Hwyluso cyfleoedd cyfoethogi rhyngwladol ar ran y sector i ddod â dimensiwn byd-eang i gynifer o feysydd o fywyd coleg â phosib.
  • Cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cymwysterau a gyflawnir yng Nghymru yn cael eu deall a'u cydnabod mewn gwledydd eraill fel y gall dysgwyr, staff a gweithwyr astudio, hyfforddi a gweithio dramor. 
  • Lledaenu gwybodaeth am gyfleoedd masnachol, wedi'u hariannu a phartneriaeth i'n haelodau. 
  • Cefnogi colegau addysg bellach gyda chyngor cyffredinol ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. 

Cysylltwch

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Tudalennau Cysylltiedig

Cyfleodd Tramor Meincnodi Rhyngwladol

Gwybodaeth a Chynrychiolaeth Gweithgareddau Rhyngwladol Colegau Addysg Bellach

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.