Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn arwain ar gyflwyno cyfleoedd datblygu dramor i ddysgwyr a staff trwy Raglenni Erasmus+ a Taith a Chynllun Turing.
Mae Cynllun Turing yn darparu cyllid ar gyfer cyfleoedd rhyngwladol mewn addysg a hyfforddiant ar draws y byd. Mae'n cefnogi Prydain Fyd-eang trwy ddarparu cyfleoedd i golegau addysg bellach gynnig cyfleoedd oes i ddysgwyr i astudio neu weithio dramor. Lansiwyd y Cynllun yn 2021 gan lywodraeth y DU.
Yn 2021, roedd cais Consortiwm Rhyngwladol ColegauCymru ar gyfer cyllid Cynllun Turing yn llwyddiannus a darparodd gyfleoedd i ddysgwyr addysg bellach ymgymryd ag astudiaethau 2/3 wythnos neu brofiadau gwaith unrhyw le yn y byd. Roedd y Cynllun yn rhoi pwyslais ar ehangu cyfranogiad mewn rhaglenni symudedd tramor trwy ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr difreintiedig a/neu agored i niwed.
Derbyniodd ColegauCymru Rhyngwladol dros £1.4m i gefnogi 528 o ddysgwyr ar draws ystod eang o feysydd cwricwlwm i gael profiad o fyw, gweithio ac astudio dramor. O fis Chwefror 2022, cynhaliwyd cyfanswm o 12 ymweliad, ag 8 gwlad ledled y byd, gan gynnwys Cambodia, Canada a Sweden.
Roedd yr adborth gan ddysgwyr yn gadarnhaol, gyda 100% yn nodi bod eu profiad naill ai’n ‘Dda’ neu’n ‘Ardderchog’. Yn ogystal, roedd 98% o ddysgwyr yn cytuno bod y cyfleoedd wedi hybu eu hyder cyffredinol.
Ymhlith y cyfleoedd:
- 10 dysgwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Goleg Ceredigion/Coleg Sir Gâr yn teithio i Alberta, Canada i wneud ymchwil gweithredu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gwledig gan ganolbwyntio ar y cymorth a gynigir i boblogaethau brodorol.
- Ymwelodd dysgwyr Sbaeneg Safon Uwch o Goleg Catholig Dewi Sant â Barcelona i ddatblygu eu sgiliau iaith gyda Nexgen Careers, a hwylusodd raglen i archwilio byd gwaith y dyfodol hefyd.
- Aeth dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo ar leoliadau gwaith mewn bwytai a gwestai Eidalaidd yn Pistoia, yr Eidal gan ddysgu sgiliau newydd baratoi bwyd.
“Rydym yn falch bod Cynllun Turing wedi’i gyflwyno ac yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr addysg bellach hyfforddi ac astudio ar draws y byd. Rydym wedi hyrwyddo gwerth rhaglenni symudedd ar gyfer dysgwyr galwedigaethol ers tro byd ac rydym yn falch o weld y Cynllun yn ehangu cyfranogiad i ddysgwyr Safon Uwch a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.”
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect ColegauCymru Rhyngwladol
Gwybodaeth Bellach
Cynllun Turing
Rhaglen fyd-eang y DU i weithio ac astudio dramor yw Cynllun Turing. Rhaglen fyd-eang y DU i weithio ac astudio dramor yw Cynllun Turing. Ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth.
Cysylltwch
Ein Rheolwr Prosiect Siân Holleran sydd yn arwain gwaith Cynllun Turing ar ran ColegauCymru Rhyngwladol. Cysylltwch â Siân i gael mwy o wybodaeth: Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk
Tudalennau Cysylltiedig