49591080068_c0fa2de291_c.jpg

Mae’r diwydiannau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch (MTLl) wedi newid yn arw dros y degawd diwethaf. Ymhlith y newidiadau a welwyd y mae twf cynyddol siopa ar-lein, cynnydd yn nifer y bobl sy’n trefnu llety ar-lein, a thwf gwefannau teithio a gwefannau adolygu fel Trip Advisor.

Busnesau micro, busnesau bach neu fusnesau canolig eu maint yw’r mwyafrif o fusnesau MTLl, ac mae ganddynt anghenion penodol o ran hyfforddiant a sgiliau. Mae sefydliadau Addysg Bellach yn awyddus i ateb anghenion y busnesau hyn a deall yr heriau y maent yn eu hwynebu. Gyda golwg ar hyn, ceisiodd ColegauCymru feithrin gwell dealltwriaeth o’r gofynion a’r heriau o ran sgiliau sy’n wynebu busnesau bach yn y diwydiant MTLl, a chomisiynodd ymchwil yn y maes hwn.

Cynhaliwyd yr ymchwil mewn dau gam: dull meintiol yn edrych ar y problemau sy’n gysylltiedig â sgiliau a chymwysterau mewn busnesau bach a chanolig eu maint; ac ail ddarn o ymchwil mwy ansoddol. Roedd hwn wedi’i seilio ar gyfweliadau, gan edrych ar anghenion sgiliau busnesau bach a chanolig eu maint, eu prosesau recriwtio, y gwahaniaethau rhwng anghenion hyfforddiant yn y sectorau manwerthu, lletygarwch ac arlwyo, ac yn dra phwysig, sut i ateb yr anghenion hyn. Canolbwyntiwyd yn hyn o beth ar sut y dylai darpariaeth Addysg Bellach (ac mewn rhai achosion, Addysg Uwch) ymateb wrth ddatblygu cyrsiau a dulliau addysgu a dysgu yn ehangach. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o ail gam yr ymchwil a’r cyfweliadau ansoddol a gafodd eu cynnal. Daeth sawl peth disgwyliedig i’r fei yn sgil y gwaith hwn, fel problemau trafnidiaeth a’r anawsterau wrth recriwtio mewn rhannau penodol o Gymru. Fodd bynnag, daeth materion llai amlwg hefyd i’r fei, fel sut i alluogi pobl sydd wedi dewis proffesiynau creadigol i fod yn wir greadigol pan nad yw’r gwaith sydd ar gael yn y meysydd hynny yn cyd-fynd â lefel yr her yr oeddent wedi’i disgwyl. Er enghraifft, dyna ichi’r cogydd dychmygol hwnnw sy’n breuddwydio am weithio mewn bwyty seren Michelin ond yn hytrach yn gorfod coginio gamwn, ŵy a sglodion mewn tafarn nos ar ôl nos. Roedd sawl un yn gallu uniaethu â hyn, a dyna a roddodd i’r adroddiad hwn ei deitl.

Nid gwaith hawdd fydd mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n cael sylw yn y adroddiad hwn, ond fel y dangosodd rhai o’r busnesau a gafodd eu cyfweld, mae atebion newydd a hyblyg yn bosibl wrth recriwtio, wrth roi hyfforddiant ac wrth ddewis y math o hyfforddiant a roddir.

Mae’r adroddiad hwn hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig wrth ddeall y problemau y mae darparwyr sgiliau yn eu hwynebu wrth geisio ateb anghenion busnesau bach a chanolig eu maint.

Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at ysgogi trafodaeth ac at ddod o hyd i’r ffordd orau o roi sylw i’r argymhellion a wnaed gan y tîm ymchwil, sef Mark Lang, David Pickernell, Celia Netana a Simon Thomas. Mae ColegauCymru yn ddiolchgar i’r tîm ymchwil ac i’r EACEA am grant i Bwyntiau Cyfeirio Cenedlaethol EQAVET (y Dull Ewropeaidd o Sicrhau Ansawdd Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol). Hwy a gyllidodd yr ymchwil a hwy a sicrhaodd bod y gwaith hwn yn bosibl.

Dr Rachel Bowen
Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, ColegauCymru

Darllenwch yr Adroddiad

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.