pexels-haley-black-2087391.jpg

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn arwain ar ddarparu cyfleoedd datblygu ar gyfer dysgwyr a staff drwy gynllun Erasmus+ a Chynllun Turing. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i lunio'r Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol i weddu i anghenion dysgwyr a staff addysg bellach.

 

 

 

Dysgwyr
Mae ceisiadau cyllid consortia ColegauCymru Rhyngwladol ar gyfer rhaglen Erasmus+ yn galluogi dysgwyr a phrentisiaid i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith pythefnos mewn gwahanol leoliadau ledled Ewrop. Mae’r lleoliadau gwaith yn gydnaws â chymwysterau’r dysgwyr yng Nghymru ac yn cynnig profiadau newid bywyd i bobl ifanc nad ydynt efallai erioed wedi ystyried cyfleoedd cyflogaeth y tu hwnt i Gymru.

Dysgwyr a staff ar fuddion lleoliadau gwaith yn Ewrop

Staff
Mae colegau addysg bellach yng Nghymru yn cydnabod bod arfer da a syniadau newydd yn bodoli mewn mannau eraill. 

Mae ceisiadau consortia ColegauCymru Rhyngwladol yn cyllido darlithwyr addysg bellach, arweinwyr a staff cymorth o bob rhan o Gymru i’w galluogi i gymryd rhan mewn cyfleoedd DPP gwerthfawr yn Ewrop. Ar yr ymweliadau hyn, rydym yn casglu tystiolaeth, syniadau ac arfer da o dramor i gefnogi gwelliannau ar lefel strategol i strwythurau addysg a hyfforddiant galwedigaethol Cymru.

Ers 2014, mae cynrychiolwyr o ColegauCymru Rhyngwladol, colegau addysg bellach, Estyn a Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan mewn ymweliadau dramor ac wedi cael cyfle i archwilio ystod o themâu a blaenoriaethau gan gynnwys:

  • 2014 - Gwella llythrennedd a rhifedd a thorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol (Helsinki, y Ffindir)
  • 2015 - Arloesi mewn VET a chefnogi busnesau bach a chanolig (Gwlad y Basg, Sbaen)
  • 2016 - Amlieithrwydd a gweithio'n agosach gyda chyflogwyr trwy ddatblygu sgiliau sy'n ymateb i anghenion y gweithle (Catalwnia, Sbaen)
  • 2017 - Sgiliau lefel uwch mewn lleoliad addysg bellach (Sonderborg, Denmarc)
  • 2018 - Rhyngwladoli yn VET (Helsinki, y Ffindir)

Mae gan ColegauCymru Rhyngwladol cyllid o geisiadau Erasmus+ yn 2019 a 2022 ar gyfer ymweliadau staff â:

  • Yr Almaen - digideiddio VET
  • Norwy, Awstria ac Iwerddon - dysgu proffesiynol staff VET

*Er nad yw'r DU bellach yn cymryd rhan yn Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Erasmus+, bydd y cyllid presennol a dderbynnir er budd dysgwyr a staff yn parhau i gael ei ddefnyddio hyd at 2023.*

Gwybodaeth Bellach

Erasmus+
Erasmus+ yw rhaglen yr UE i gefnogi addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yn Ewrop. Ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch
Ein Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ac Ewropeaidd Siân Holleran sydd yn arwain Rhaglen Erasmus+ ar ran ColegauCymru Rhyngwladol. Cysylltwch â Siân i gael mwy o wybodaeth: Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk

Tudalennau cysylltiedig

Cynllun Turing Taith Erasmobility Cyfleoedd Dramor

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.