pexels-haley-black-2087391.jpg

Roedd ColegauCymru Rhyngwladol yn un o 10 partner yr UE mewn prosiect Cam Allweddol 2 Erasmus+ a arweiniwyd gan CIFPF La Costera, Xativa, Sbaen. Daeth y prosiect i ben ym mis Rhagfyr 2022.

Gweithiodd partneriaid y prosiect gyda’i gilydd ar wella platfform Erasmobility presennol a grëwyd i adeiladu partneriaethau rhwng colegau galwedigaethol ar draws yr UE er mwyn cynyddu symudedd dysgwyr galwedigaethol a staff ar gyfer gwaith, hyfforddiant ac astudio. Roedd partneriaid y prosiect o'r Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc, Gwlad Groeg, Portiwgal, Rwmania, Sbaen, Iwerddon a'r Deyrnas Unedig.

Mae platfform Erasmobility yn parhau i fodoli gan hwyluso partneriaethau ar draws yr UE ar gyfer prosiectau symudedd.

        

Rhif y prosiect: 2019-1-ES01-KA202-063924

Cysylltwch

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Swyddog Prosiect 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Tudalennau Cysylltiedig

Erasmus+ Taith  Cynllun Turing Cyfleoedd Dramor

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.