Wrth i ansicrwydd cynyddol ledaenu drwy’r byd gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig, ac yn wir ar draws y byd, mae cydnerthedd economaidd a sut i baratoi’n well at ysgytiadau economaidd yn faterion hynod o bwysig.
Nod yr ymchwil hwn, a wnaed ar ran ColegauCymru, yw edrych ar y berthynas rhwng sgiliau lefel uwch a chydnerthedd economaidd. Mae’n gwneud hyn drwy edrych ar brofiadau chwe rhanbarth yn Ewrop. Gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth ysgrifenedig a chyfweliadau wyneb yn wyneb ar draws y chwe rhanbarth, canfu’r tîm fod ystod o ffactorau yn dylanwadu ar gydnerthedd economaidd. Dim ond un elfen ymysg y rhain oedd sgiliau lefel uwch.
Gan ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn y cam hwn yn y prosiect, aeth y tîm ymchwil yn ei flaen i drafod y canfyddiadau â rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae’r adroddiad sy’n dilyn yn gwneud cyfraniad o bwys at y drafodaeth am gydnerthedd economaidd, sgiliau, ac yn dra phwysig, sut y gall Cymru fanteisio ar wybodaeth a phrofiadau ein partneriaid mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Wrth inni edrych tua’r dyfodol, bydd cydweithio, boed o fewn rhanbarthau neu rhwng rhanbarthau, yn hollbwysig o hyd. Mae’r adroddiad hefyd yn ein hatgoffa nad rhestrau o gyflawniadau crynodol neu ffurfiannol, ochr yn ochr â meini prawf ar gyfer marcio, sy’n mesur ansawdd ein system sgiliau. Yn hytrach, mae’r system honno’n cael ei mesur drwy ei gallu i helpu economïau pobl a llefydd i fod yn gydnerth ac i ymateb i anghenion newydd.
Ni fyddai’r ymchwil hwn wedi bod yn bosibl heb gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd drwy grant EACEA i Bwyntiau Cyswllt Cenedlaethol EQAVET, ac mae ColegauCymru’n ddiolchgar am hyn. Mae angen inni ddiolch hefyd i’r tîm ymchwil, sef Dr Mark Lang, Phil Whitney, Bradley Tanner ac Ian Pegg, ac i’r Athro Gill Bristow a Dr Adrian Healy ym Mhrifysgol Caerdydd am eu harweiniad a’u cymorth arbenigol.
Yn olaf, rydym yn ddiolchgar i’r rheini a neilltuodd eu hamser ac a rannodd eu harbenigedd wrth gael eu cyfweld fel rhan o’r ymchwil hwn, a hynny o’r chwe rhanbarth Ewropeaidd ac yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar hefyd i bawb a helpodd neu a gyfrannodd at y prosiect hwn ar ei hyd.
Dr Rachel Bowen
Cyfarwyddwr Polisi a Datblygu, ColegauCymru