pexels-natasa-dav-2885919.jpg

Aliniad FfCChC i'r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (FfCE) a fframweithiau cymwysterau cenedlaethol eraill (FfCC).

Ar 22 Hydref 2019, cyhoeddodd ColegauCymru adroddiad Cyfeirio Rhwng Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (FfCE).

Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod cymwysterau yng Nghymru yn parhau i gael eu halinio â'r FfCE a, thrwy hyn, â chymwysterau mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Mae'r ail-gyfeirnodi'n cefnogi symudedd dysgwyr yn ogystal â symudiad gweithwyr sy'n dymuno byw a gweithio dramor trwy wneud y cymwysterau sydd ganddynt yn glir, yn gymharol ac yn eu bod yn cael eu cydnabod y tu allan i Gymru a'r DU.

  • Sicrhaodd ColegauCymru gyllid gan y Comisiwn Ewropeaidd i ymgymryd â'r ail-gyfeirnodi a hefyd rheoli'r cyllid ar ran Fframwaith Credyd a Chymwysterau'r Alban (SCQF).
  • Gweithiodd ColegauCymru yn agos gyda Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru, HEFCW, NTfW a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru i gwblhau'r ail-gyfeirnodi yn 2019.
  • Gweithiodd ColegauCymru gyda cholegau a chyflogwyr yn 2010 i roi Fframwaith Cymwysterau a Chredyd y DU (FfCCh) a https://llyw.cymru/cymwysterau y DU ar waith yng Nghymru.

Cysylltwch

Adrian Sheehan yw prif gyswllt ColegauCymru ar gyer Aliniad FfCChC mewn colegau addysg bellach yng Nghymru. Cysylltwch Adrian am fwy o wybodaeth: Adrian.Sheehan@ColegauCymru.ac.uk

Tudalennau Cysylltiedig

EQAVET Cydnabod Dysgu Blaenorol

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.