Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn falch o fod yn cynnal cyfres o weithdai ar gyfer colegau sy'n cymryd rhan mewn prosiectau symudedd dysgwyr Erasmus+ 2020.
Ar ddechrau 2022, cafodd cadarnhad o estyniadau ar gyfer prosiectau symudedd dysgwyr a staff Erasmus+ 2020 hyd at fis Rhagfyr 2023 groeso cynnes gan ColegauCymru Rhyngwladol.
Bydd y digwyddiadau cynllunio ar-lein yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 31 Ionawr 2022, a bydd o fudd i unrhyw staff sy’n ymgymryd ag ymweliadau Erasmus+ cyn 31 Awst 2022.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran,
“Rydym yn ddiolchgar am yr amser ychwanegol i allu cynllunio lleoliadau gwerthfawr ar gyfer dysgwyr addysg bellach a staff fel ei gilydd. Mae cyfleoedd datblygu tramor yn gydnaws â chymwysterau dysgwyr yng Nghymru ac yn cynnig profiadau sy’n newid bywydau pobl ifanc nad ydynt efallai erioed wedi ystyried cyfleoedd cyflogaeth y tu hwnt i Gymru”.
Gwybodaeth Bellach
I gofrestru eich lle am ddim neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk
Sesiynau
Dydd Mawrth 1 Chwefror 2022, 9.00yb - 10.30yb
Dydd Mercher 2 Chwefror 2022 2.00yp - 3.30yp
Dydd Gwener 4 Chwefror 2022 12.00yp - 1.30yp
Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022, 11.00yb - 12.30yp