Cymru yn Arddangos Cydweithio Rhyngwladol ym maes Addysg Bellach ar Lwyfan Ewropeaidd

EAIE Conference 3.jpg

Tynnwyd sylw at ymrwymiad ColegauCymru i gydweithio rhyngwladol a chyfleoedd i ddysgwyr yr wythnos hon pan ymunodd Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu Strategol, â thrafodaeth banel uchel ei phroffil yng Nghynhadledd y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Addysg Ryngwladol (EAIE) yn Glasgow, ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS a phartneriaid y sector. 

Rhoddodd y panel gyfle i arddangos partneriaethau addysg ryngwladol cynyddol Cymru a dangos sut mae cydweithio byd-eang yn creu cyfleoedd i ddysgwyr a staff ledled y sector addysg bellach. Roedd y drafodaeth yn cynnwys enghreifftiau o ymgysylltu rhyngwladol, gan gynnwys partneriaethau diweddar ac ymweliadau tramor sydd wedi cryfhau cysylltiadau addysgol a diwylliannol rhwng Cymru a gwledydd ledled y byd. 

Un o'r themâu allweddol oedd cryfder unigryw Cymru fel cenedl fach a chysylltiedig. Mae cydweithio agos rhwng colegau, prifysgolion, cyflogwyr, cymunedau a'r llywodraeth yn galluogi partneriaethau rhyngwladol i symud yn gyflym o gytundebau i gydweithio ymarferol, gan roi mynediad i bartneriaid at arbenigedd ar draws sector Cymru yn ehangach. 

Persbectif byd-eang sy'n sicrhau buddion lleol 

“Mae partneriaethau rhyngwladol yn ymwneud â llawer mwy na theithio,” meddai Kelly Edwards. “Maent yn helpu dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r persbectif byd-eang y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi fwyfwy, gan alluogi staff i rannu arbenigedd a dod â syniadau newydd yn ôl i'n colegau a'n cymunedau. 

“Mae gan Gymru stori gref i'w hadrodd. Drwy raglenni fel Taith a Turing, mae colegau ledled Cymru yn creu cyfleoedd sy'n newid bywydau i ddysgwyr a staff, yn cryfhau perthnasoedd rhyngwladol ac yn sicrhau bod ein sector addysg bellach yn parhau i fod yn gysylltiedig â datblygiadau byd-eang.” 

Pam mae hyn yn bwysig 

Mae gweithgarwch rhyngwladol eisoes yn sicrhau buddion sylweddol i ddysgwyr a staff ledled Cymru. Yn ystod 2024-25, cymerodd 770 o ddysgwyr addysg bellach a 91 o aelodau staff ran mewn ymweliadau tramor, gyda chyfranogwyr yn teithio i 26 o wledydd. Roedd gan fwy na thraean o'r dysgwyr a gymerodd ran anghenion dysgu ychwanegol, tra bod 21% yn dod o gefndiroedd difreintiedig, gan ddangos ymrwymiad y sector i ehangu mynediad at gyfleoedd rhyngwladol. 

Mae'r sector hefyd mewn sefyllfa dda i adeiladu ar ailgysylltiad y DU ag Erasmus+. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen flaenorol, roedd consortiwm dan arweiniad ColegauCymru yn cynnwys 10 coleg a 747 o ddysgwyr ar draws 22 o feysydd cwricwlwm, gyda €1.6 miliwn o gyllid Ewropeaidd yn cefnogi gweithgarwch mewn wyth gwlad. Mae ailymuno â'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ailgysylltu â phartneriaid Ewropeaidd ac ehangu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff, ochr yn ochr â phrofiadau sy'n newid bywydau dysgwyr. 

Drwy rannu profiad Cymru ar lwyfan rhyngwladol, rhoddodd Cynhadledd EAIE gyfle i godi proffil sector addysg bellach Cymru, cryfhau partneriaethau rhyngwladol a chefnogi cyfleoedd yn y dyfodol i ddysgwyr, staff a cholegau. 

Gwybodaeth Bellach 

EAIE Glasgow 2026 - Cynhadledd Addysg Ryngwladol 
Mae Cynhadledd y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Addysg Ryngwladol (EAIE) yn un o ddigwyddiadau mwyaf blaenllaw Ewrop ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes addysg ryngwladol. Bydd Kelly Edwards yn ymuno â thrafodaeth banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o sector addysg Cymru a'r llywodraeth i archwilio cydweithio rhyngwladol a gwerth partneriaethau byd-eang ym maes addysg. 

Taith 
Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Cymru. 

Erasmus+ 
Rhaglen yr UE ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. 

Cynllun Turing 
Mae Cynllun Turing yn darparu cyllid i ddarparwyr addysg yn y DU i gefnogi myfyrwyr a phrentisiaid i ymgymryd â lleoliadau astudio a gwaith rhyngwladol, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau, hyder a phrofiad rhyngwladol. 

Sian Holleran, Rheolwr Prosiectau Rhyngwladol 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.