Cymru a Baden-Württemberg yn ffurfio partneriaethau addysgol a diwydiant

global.jpeg

Yr wythnos hon mae uwch arweinwyr o golegau a phrifysgolion Cymru wedi teithio i Stuttgart i gryfhau cysylltiadau addysgol a diwydiant rhwng Cymru a thalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen. 

Nod dirprwyaeth Cymru Fyd-eang, gyda chefnogaeth Taith a Llywodraeth Cymru, ac a drefnwyd mewn partneriaeth â ColegauCymru, oedd dysgu am y diwydiant gweithgynhyrchu modurol yn Baden-Württemberg fel rhan o ymweliad pedwar diwrnod. 

Mae Baden-Württemberg wedi’i gydnabod fel partner strategol ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chymru Fyd-eang i hybu cydweithrediadau mewn addysg uwch ac addysg bellach. Nod y fenter hon yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng sefydliadau addysgol a'r diwydiant modurol yng Nghymru a'r Almaen, gan ganolbwyntio ar feysydd fel gweithgynhyrchu uwch, peirianneg fodurol, sgiliau gwyrdd mewn gweithgynhyrchu, a bodloni gofynion di-garbon net.

Roedd y ddirprwyaeth yn cyd-daro ag ymweliad â’r rhanbarth gan Vaughan Gething ASC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, ar gyfer llofnodi Datganiad ar y Cyd rhwng llywodraethau Cymru a Baden-Württemberg. Cyfarfu’r cynrychiolwyr â’r Gweinidog i drafod sut y gall sefydliadau addysg bellach ac uwch gefnogi’r ymrwymiadau a amlinellir yn y Datganiad ar y Cyd a gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cymru Fyd-eang, a phartneriaid yn yr Almaen er budd dysgwyr a diwydiant yng Nghymru.

Meddai Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, 

“Mae llofnodi datganiad ar y cyd â Baden-Württemberg yn allweddol o ran cadarnhau ein perthynas bwysig â’r rhanbarth hwn sy’n ardal flaenoriaeth i Gymru. Fel un o’n partneriaid masnachu mwyaf, mae’n rhoi cyfle i ni sicrhau cydweithrediad parhaus, cryfach.”

Ychwanegodd Dr Ben Calvert, Cadeirydd Cymru Fyd-eang ac Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, 

“Rydym yn falch bod dull system-i-system Cymru Fyd-eang o ysgogi sefydliadau, partneriaid sector a Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o fudd i golegau, prifysgolion, staff a dysgwyr yng Nghymru. Trwy’r gwaith hwn rydym yn cynnal ein cefnogaeth i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru trwy barhau i feithrin perthnasoedd rhwng Cymru a Baden-Württemberg.”

Ychwanegodd ymhellach Dr Andrew Cornish, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Sir Gâr a Coleg Ceredigion,

“Mae cefnogaeth gref ymhlith colegau addysg bellach Cymru i ddatblygu ac adfywio peirianneg fodurol yng Nghymru. Mae'r ymweliad hwn wedi rhoi cyfle gwych i ni feithrin gwell dealltwriaeth o ddiwydiant modurol Baden-Württemberg sydd ag enw rhagorol yn fyd-eang. 

“Rydym yn awyddus i ddod â’r hyn rydym wedi’i ddysgu a’r enghreifftiau o arfer gorau adref i Gymru, lle gall y sector addysg bellach barhau i wneud cyfraniad gwerthfawr wrth gefnogi economi ffyniannus er budd Cymru.”

Yn ystod yr ymweliad, ymwelodd y ddirprwyaeth â gwneuthurwr rhannau modurol MAHLE GmbH, Future Workshop 4.0 sef hyb arloesi, ynghyd â Technische Akademie Esslinge, un o ddarparwyr cymwysterau galwedigaethol a chyn-alwedigaethol mwyaf yr Almaen yn y sectorau technegol. 

Cynhaliodd y ddirprwyaeth gyfarfodydd hefyd â sefydliadau allweddol yn Baden-Württemberg, megis Baden-Württemberg International, e-mobil BW a Chorfforaeth Datblygu Economaidd Rhanbarth Stuttgart, â’r nod o hyrwyddo cyfleoedd i bartneriaethau fod o fudd i ddysgwyr a sefydliadau yng Nghymru a’r Almaen.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.