Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn rhan allweddol o unrhyw broses a all gysylltu dysgu anffurfiol â safonau a chymwysterau mynediad cydnabyddedig. Ar hyn o bryd, nid oes polisi cyffredinol yng Nghymru ar gyfer y broses hon er bod llawer o sefydliadau'n defnyddio RPL i wella cynnydd a chyfleoedd mewn addysg, hyfforddiant a gwaith.
Hoffem eich gwahodd chi, neu gydweithiwr, i fynychu un neu’r ddau sesiwn ar ddefnyddio Cydnabod Dysgu Blaenorol.
Seminar 1: Cyflwyniad i ddefnyddio RPL
Dydd Iau 25 Mawrth 2021 (10.00am - 12.00pm)
Mae'r seminar hwn wedi'i anelu at ymarferwyr a bydd yn canolbwyntio ar:
- dulliau ymarferol o ddefnyddio RPL
- yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r defnydd o RPL
Swyddog Datblygu SCQFP, Fiona Garry, fydd yn arwain y sesiwn.
ARCHEBWCH LE
---
Seminar 2: Defnyddio RPL gyda ffoaduriaid gorfodol
Dydd Iau 25 Mawrth 2021 (2.00pm - 3.30pm)
Mae'r seminar hwn wedi'i anelu at staff rheng flaen sy'n delio â mudwyr gorfodol bob dydd a bydd yn canolbwyntio ar sut:
- y mae'r Alban wedi bod yn defnyddio RPL i gefnogi cleientiaid i gael gwaith a/neu hyfforddiant
- y gallai Cymru gynllunio i fynd i'r afael â materion sy'n defnyddio RPL gydag ymfudwyr gorfodol
Julie Cavanagh, Pennaeth Partneriaethau a Chyfathrebu, SCQFP a fydd yn arwain y sesiwn.
ARCHEBWCH LE
ColegauCymru, Cydlynwyr Cenedlaethol y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (EQF), sy'n hwyluso'r seminarau hyn ar ran Partneriaeth Fframwaith Credyd a Chymwysterau'r Alban (SCQFP).
Gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i un neu'r ddau sesiwn. Yn y cyfamser, cysylltwch â Sian Holleran gydag unrhyw gwestiynau. Rhannwch y gwahoddiad hwn hefyd gyda chydweithwyr y credwch y gallai fod â diddordeb mewn mynychu.