Mae ColegauCymru yn galw ar frys am eglurder gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â gweithredu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) arfaethedig yn y dyfodol a fydd yn disodli cronfeydd strwythurol yr UE. Mae'r diffyg cadarnhad ynghylch disodli'r cyllid hwn yn peri pryder mawr i'r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, a Chymru yn ehangach.
Mewn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 10fed Tachwedd, gofynnodd Vikki Howells AS pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch y mater. Cadarnhaodd ei bod wedi cyfarfod â ColegauCymru yn ddiweddar i drafod pwysigrwydd y gronfa i ariannu sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol. Amlygodd Ms Howells fod pryder gwirioneddol y bydd yn anodd i golegau, heb amnewid cyllid, i gefnogi economeg leol a'r gymdeithas ehangach. Galwodd ar y Prif Weinidog i drosglwyddo pryderon sector addysg bellach Cymru i Lywodraeth y DU.
Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford AS gan gadarnhau bod lleiafswm cyfleoedd wedi cael eu cynnig i drafod y gronfa gyda Gweinidogion y DU, er gwaethaf ceisiadau dro ar ôl tro i wneud hynny. Nid yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl gallu cynnal trafodaeth rhwng nawr ac Adolygiad Gwariant y DU ar 25 Tachwedd. Ychwanegodd y Prif Weinidog ymhellach fod cynnydd dibwys wedi'i wneud er gwaethaf nodi amryw ddulliau o sefydlu deialog ystyrlon.
Siaradodd Dai Lloyd AS ar 11eg Tachwedd hefyd am bwysigrwydd y gronfa ar gyfer colegau addysg bellach a gofynnodd pa ymrwymiadau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'u derbyn gan Lywodraeth y DU ar ariannu sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol. Ymatebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles AS, fod Llywodraeth Cymru yn aros am eglurder a’i fod yn rhannu rhwystredigaeth Dr Lloyd, gan dynnu sylw hefyd at effaith bwysig cronfa Erasmus+ ar ddysgwyr galwedigaethol yng Nghymru.
Mae mwy nag un mis bellach wedi mynd heibio ers i ColegauCymru ofyn ar frys am gyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, i drafod disodli cronfeydd strwythurol yr UE a rôl bosibl Llywodraeth y DU wrth gomisiynu rhaglenni sgiliau yng Nghymru. Hyd yn hyn, nid oes cyfarfod wedi'i drefnu.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Er gwaethaf ceisiadau dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU i ddarparu atebion, nid ydym yn gliriach o hyd ar ffordd ymlaen. Mae Cymru wedi dibynnu'n helaeth ar gronfeydd strwythurol yr UE i gefnogi datblygu economaidd, seilwaith, busnesau a sgiliau. Bydd y diffyg eglurder nid yn unig yn cael effaith niweidiol ar ddysgwyr a cholegau addysg bellach ond ar yr economi ehangach a'u gymunedau yn gyffredinol ”.
Ychwanegodd Mr Davies,
“Mae’r cyflwr hwn o ansicrwydd yn gadael llawer o Gymry gyda’r farn nad yw Llywodraeth y DU yn poeni amdanynt, na’u dyheadau am gyflogaeth a’u gallu i ennill cyflog digonol trwy yrfa werth chweil. Mae'r pandemig parhaus yn gwaethygu ymhellach heriau sefydledig sgiliau a chyflogadwyedd ac mae oedi pellach i gyhoeddi'r cynllun, hyd yn oed ar gyfer ymgynghori, yn anfaddeuol. Rydym yn dal i bryderu’n fawr am y diffyg sylw a roddir gan Swyddfa Cymru i’r mater hwn o ariannu cyllid ar gyfer rhaglenni mewn addysg a sgiliau oedolion.”