Rydym yn falch iawn o adrodd bod Routes Cymru a ColegauCymru Rhyngwladol wedi gwahodd myfyrwyr o golegau addysg bellach o bob rhan o Gymru yn ddiweddar i gymryd rhan mewn cystadleuaeth gyffrous yn cyfuno coginio ac ieithoedd, a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 26ain Chwefror 2020.
Pwrpas y digwyddiad oedd hyrwyddo dysgu iaith fel sgil bywyd a all arwain at lawer o wahanol lwybrau gyrfa. Gwelwyd timau o dri myfyriwr (un myfyriwr iaith Safon Uwch a dau fyfyriwr arlwyo galwedigaethol/lletygarwch) yn gweithio gyda'i gilydd i greu bwydlen flasus.
Roedd dyddiad y Rownd Derfynol yn cyd-daro â gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness gyda Chymru, yr Eidal a Ffrainc yn chwarae yng Nghaerdydd. Roedd yn addas felly bod y fwydlen yn adlewyrchu prydau a blasau'r tair gwlad hyn.
Gosododd y pedwar beirniad fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn y lle cyntaf gyda’u bwydlen o Croquettes au Fomage Perl Las à La Sauce de Miel Gallois, Tournedos Rossini, Pommes Dauphinoise et Haricots Verts à La Française. Gorffennwyd y fwydlen fuddugol gyda Tiramisu.
Dywedodd Rheolwr Prosiect ColegauCymru Rhyngwladol Siân Holleran,
“Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr academaidd a galwedigaethol mewn colegau addysg bellach gydweithio mewn ffordd hwyliog a gafaelgar. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y peilot hwn yn paratoi'r ffordd i ddigwyddiad mwy’r flwyddyn nesaf.”
Ychwanegodd Rheolwr Proseict Llwybrau at Ieithoedd Cymru Meleri Jenkins,
''Mae'r digwyddiad hwn yn dangos sut y gall dysgu iaith fodern agor y drysau i fyd o gyfle - mae'n sgil bywyd sy'n werthfawr ar gyfer ystod o wahanol lwybrau gyrfa ac nid yn unig fel pwnc academaidd i astudio ar Safon Uwch.”
Hoffai ColegauCymru Rhyngwladol a Routes Wales ddiolch i'r beirniaid, y staff a'r myfyrwyr am ymgysylltu â'r digwyddiad hwn mewn ffordd mor gadarnhaol. Diolch hefyd i’r Dosbarth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro am gynnal y digwyddiad.