Rhwng 2017/19, derbyniodd ColegauCymru Rhyngwladol gyllid i archwilio'r berthynas rhwng sgiliau lefel uwch a gwytnwch economaidd. Cyflawnwyd y prosiect hwn yn sgil argyfwng ariannol byd-eang 2008. Gwnaethom edrych ar chwe rhanbarth yn Ewrop a oedd yn debyg o ran gwytnwch economaidd i Gymru a sut ymatebodd eu systemau addysgol a hyfforddiant i'r problemau a achoswyd gan yr argyfwng. Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol Creu Cymru Well - Gwersi o Ewrop yn y Grŵp Trawsbleidiol Addysg Bellach a Sgiliau'r Dyfodol ym mis Medi 2019. Mae'r adroddiad, a'i argymhellion, yn arbennig o berthnasol nawr yn yr oes ôl-Covid.
Newyddion
EQAVET - Y berthynas rhwng sgiliau lefel uwch a gwytnwch economaidd
Dilynwch Ni
Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.