Mae colegau ledled Cymru yn trawsnewid sut maen nhw'n mynd i'r afael â cham-drin menywod ac yn hyrwyddo perthnasoedd parchus ymhlith pobl ifanc, trwy gydweithrediad rhyngwladol a wnaed yn bosibl gan gyllid Taith.
Mae'r prosiect yn cysylltu colegau addysg bellach Cymru â phartneriaid yng Nghanada, gan alluogi dysgu ar y cyd ac atebion ymarferol i rai o'r heriau mwyaf dybryd sy'n wynebu pobl ifanc heddiw.
Datblygwyd y prosiect dan arweiniad ColegauCymru mewn ymateb i bryderon a amlygwyd gan Estyn ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg bellach. Mae'n cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd, gwella lles dysgwyr a chreu amgylcheddau dysgu diogel a chynhwysol.
Galluogodd cyllid Taith bum coleg addysg bellach yng Nghymru i gydweithio â phum coleg a phrifysgol yng Nghanada trwy Gymuned Ymarfer ryngwladol, gan greu lle ar gyfer cyfnewid gwybodaeth barhaus, arloesi a dysgu a rennir.
Archwiliodd staff heriau cyffredin gan gynnwys casineb at fenywod, ymddygiad niweidiol ar-lein a cham-drin rhwng cyfoedion trwy ymweliadau rhannu gwybodaeth rhwng Cymru a Chanada.
Un o'r gwersi allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r cydweithrediad oedd pwysigrwydd ymgysylltu dynion ifanc mewn sgyrsiau agored a gonest ynghylch perthnasoedd, gwrywdod a chynnwys niweidiol ar-lein.
Ers hynny, mae'r prosiect wedi arwain at bartneriaethau ehangach gyda sefydliadau fel She Is Not Your Rehab, mudiad gwrth-drais yn Seland Newydd sy'n canolbwyntio ar dorri cylchoedd trais teuluol, a'r sefydliad effaith gymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ieuenctid, Our Voice Our Journey, gan ymestyn ei gyrhaeddiad a'i effaith hirdymor ymhellach.
Gan weithio ochr yn ochr â'r sefydliadau hyn, cynhaliodd ColegauCymru sesiynau rhanbarthol yng Ngogledd a De Cymru a oedd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â cham-drin menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus o fewn lleoliadau addysg bellach.
Daeth un digwyddiad a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd â thua 400 o ddynion ifanc o bob cwr o Dde Cymru ynghyd, lle arweiniodd y siaradwr rhyngwladol Matt Brown drafodaethau ynghylch casineb at fenywod, gwrywdod a pherthnasoedd parchus.
Mae staff sy'n rhan o'r prosiect yn dweud bod hyn eisoes wedi dylanwadu ar sut mae colegau'n ymdrin â cham-drin menywod a lles dysgwyr, gyda mwy o bwyslais ar hyfforddiant, ymyrraeth gynnar a chynnwys trafodaethau ynghylch perthnasoedd iach mewn amgylcheddau coleg.
Mae'r cydweithrediad hefyd wedi annog dulliau newydd o ymgysylltu â dynion ifanc a chryfhau addysg ataliol o fewn lleoliadau addysg bellach.
Dywedodd Rhelowr Prosiectau Rhyngwladol ac Ewropeaidd ColegauCymru, Siân Holleran,
“Mae cyllid Taith wedi bod yn hanfodol wrth ein galluogi i gysylltu â phartneriaid rhyngwladol a dod ag arbenigedd byd-eang yn flaenoriaeth genedlaethol i Gymru.
Mae hyn wedi creu lle ar gyfer sgyrsiau gonest, atebion ymarferol a newid parhaol i staff a dysgwyr, tra hefyd yn gosod colegau Cymru fel arweinwyr wrth fynd i’r afael â’r heriau cyffredin hyn yn rhyngwladol.”
Hefyd, cynhaliodd cyfranogwyr o Gymru a Chanada weithdy ar y cyd yng Nghynhadledd Flynyddol Colegau Cymru, gan rannu argymhellion a thrafod blaenoriaethau’r sector yn y dyfodol.
“Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu rôl gynyddol Cymru fel cenedl hyderus sy’n ymgysylltu’n rhyngwladol. Mae sefydliadau ledled Cymru yn defnyddio partneriaethau rhyngwladol i fynd i’r afael â heriau cyffredin wrth ddatblygu dulliau sydd wedi’u llunio o amgylch anghenion dysgwyr a chymunedau Cymru,”
meddai Susana Galván, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith.
Trwy Taith, rydyn ni’n cefnogi dull unigryw Gymreig sy’n cyfuno partneriaethau byd-eang â ffocws cryf ar degwch, lles a chynhwysiant; gan helpu i sicrhau bod dysgu rhyngwladol o fudd uniongyrchol i bobl ledled Cymru.
Mae hefyd yn dangos y diddordeb rhyngwladol cynyddol mewn dysgu o Gymru, wrth i ni rannu ein harbenigedd wrth gydweithio i fynd i’r afael â heriau byd-eang a rennir.”
Ers hynny, mae Colegau Cymru wedi sicrhau cyllid Taith ychwanegol i ehangu’r gwaith, gan gynnwys datblygu hyfforddiant newydd ‘gwylwyr’ (bystander) i gefnogi dysgwyr a staff ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru, gan sicrhau bod effaith y cydweithrediad hwn a ariennir gan Taith yn parhau i dyfu.
Gwybodaeth Bellach
Mae Taith yn rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy'n newid bywydau pobl yng Nghymru i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd.
Darllenwch fwy am waith ColegauCymru ar Fynd i'r afael â cham-drin menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus yn y sector Addysg Bellach.
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk