Mynd i'r Afael â Misogyni: Aelodau'r Gymuned Ymarfer o Gymru yn rhannu arfer gorau gyda Partneriaid o Ganada

pexels-daniel-joseph-petty-756790.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o gadarnhau cam nesaf ei gydweithrediad rhyngwladol i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr a misojeniaeth mewn addysg bellach. Fel rhan o brosiect a ariennir gan Taith, cynhelir ymweliad dysgu dros wythnos ym Montreal, Canada, rhwng 26 Ebrill a 3 Mai 2025. 

Bydd yr ymweliad hwn yn dwyn ynghyd aelodau o Gymru a Chanada o Gymuned Ymarfer drawswladol, a sefydlwyd mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad Estyn ym mis Mehefin 2023, Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Mae’r prosiect, a lansiwyd yn gynnar yn 2024, yn meithrin cydweithrediad parhaus rhwng colegau yng Nghymru a Chanada i archwilio sut y gall sefydliadau greu amgylcheddau dysgu mwy diogel a mwy parchus. Mae'r prosiect yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael ag ymddygiadau ac agweddau misogynistaidd. 

Cryfhau'r Gymuned Ymarfer 

Prif nod ymweliad Montreal yw dyfnhau'r berthynas o fewn y Gymuned Ymarfer trwy alluogi aelodau o Gymru a Chanada i gyfarfod wyneb yn wyneb. Bydd yr ymweliad yn rhoi cyfleoedd i: 

  • archwilio a rhannu arfer gorau wrth atal ac ymateb i ymddygiadau misogynistaidd mewn lleoliadau addysg; 
  • dysgu oddi wrth sefydliadau Canada sydd â phrofiad o fynd i'r afael â'r heriau hyn; a 
  • chynllunio a chyd-ddatblygu gweithgareddau ac adnoddau ar gyfer cam nesaf y prosiect, a drefnwyd rhwng Mai a Hydref 2025. 

Bydd cyfranogwyr hefyd yn cymryd amser i fyfyrio ar y cyd ar eu dysgu a sut y gellir ei gymhwyso'n effeithiol o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ar ôl iddynt ddychwelyd. 

Dysgu Trwy Safbwyntiau Byd-eang 

Mae'r ymweliad hwn yn garreg filltir bwysig yn y prosiect. Ers ei lansio, mae'r Gymuned Ymarfer wedi hwyluso deialog ystyrlon rhwng gweithwyr proffesiynol ar draws y ddwy wlad. Bydd y cyfle personol hwn yn gwella'r sgyrsiau hynny, gan ganiatáu i gyfranogwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r ymatebion systemig a diwylliannol i aflonyddu mewn cyd-destunau addysg gwahanol.  

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran,  

“Mae’r ymweliad hwn yn gyfle bwysig yn ein cydweithrediad rhyngwladol. Mae’n ein galluogi i gryfhau’r perthnasoedd rydym wedi’u meithrin hyd yn hyn, ac i archwilio gyda’n gilydd sut y gall systemau addysg gefnogi pobl ifanc yn well i deimlo’n ddiogel, eu parchu a’u grymuso. Bydd y mewnwelediadau a’r syniadau a gasglwn ym Montreal yn hanfodol wrth lunio cam nesaf y prosiect yng Nghymru.” 

Ychwanegodd cyfranogwr yr ymweliad a Chyfarwyddwr Profiad y Dysgwr Coleg Sir Gâr, Tom Snelgrove, 

"Rwy'n gyffrous ac yn optimistaidd am ymweliad Taith Llwybr 2 â Montreal sydd ar ddod. Mae'n gyfle gwerthfawr i archwilio dulliau arloesol o ymdrin ag addysg a lles dysgwyr, dyfnhau dealltwriaeth drawsddiwylliannol, a chryfhau partneriaethau. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at ddysgu gan ein partneriaid - rhannu syniadau, arsylwi arfer cynhwysol mewn lleoliadau amrywiol, a chael mewnwelediad i fodelau sy'n seiliedig ar drawma ac sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, sy'n gallu llywio ac ysbrydoli ein gwaith yng Nghymru." 

Adeiladu Dyfodol Mwy Diogel i Ddysgwyr 

Mae’r prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad darparwyr addysg bellach yng Nghymru i fynd i’r afael ag ymddygiadau ac agweddau misogynistaidd trwy ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, dysgu rhyngwladol, a chydweithio ar draws y sector. Drwy weithio’n rhyngwladol, mae aelodau’r Gymuned Ymarfer yn dyfnhau eu dirnadaeth o ddulliau gwybodus sy’n amddiffyn dysgwyr a chefnogi staff ar draws y system addysg ôl-16. 

Gwybodaeth Bellach 

Adroddiad Estyn 
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn colegau addysg Bellach ledled Cymru 
Mehefin 2023 

Blog ColegauCymru 
Colegau yng Nghymru a Chanada i gydweithio i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, mewn prosiect newydd a ariennir gan Taith 
Ebrill 2024 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.