Roedd ColegauCymru Rhyngwladol yn falch o allu mynychu cyfarfod pontio Erasmobility llwyddiannus yn ôl ym mis Tachwedd 2021.
Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn un o 10 partner UE mewn prosiect Cam Allweddol 2 Erasmus+ a arweinir gan CIFPF La Costera, Xativa, Sbaen. Er gwaethaf y cyfyngiadau teithio a osodwyd gan bandemig Covid19, mae'r prosiect wedi parhau i wneud cynnydd gyda phartneriaid y prosiect yn defnyddio offer cyfathrebu ar-lein i gynnal cyfarfodydd.
Roedd modd cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb traws gwladol llwyddiannus rhwng 17 – 20 Tachwedd 2021 yn Xativa, Sbaen, gyda’r holl bartneriaid yn bresennol.
Dywedodd Rheolwr Prosiect ColegauCymru Rhyngwladol Sian Holleran,
“Roedd hon yn daith werthfawr ac addysgiadol. Cafodd partneriaid arddangosiad o'r Llwyfan Cyfnewid Lleoliad Gwaith Erasmobility newydd. Roedd hefyd yn braf gallu cyfarfod â phartneriaid wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd.”
Bu’r cyfarfod hefyd yn trafod syniadau ar gyfer lledaenu a chynaliadwyedd y platfform pan ddaw’r prosiect i ben yn 2022.
Gwybodaeth Bellach
Cysylltwch â’n Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru am ragor o wybodaeth.
Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk
Llwyfan Cyfnewid Lleoliad Gwaith Erasmobility