Gofynnodd Vikki Howells AC ar 6 Tachwedd, sut bydd y Gweinidog Brexit yn gweithio gyda’r Gweinidog Addysg i sicrhau bod Cymru ddim yn colli allan ar unrhyw rhaglennu Erasmus+ ar ôl Brexit. Tynnodd y Gweinidog, Jeremy Miles AC sylw at gyfarfod a drefnwyd gan ColegauCymru, gyda grŵp o ddysgwyr galwedigaethol o ranbarth de Gymru a elwodd o'r profiad Erasmus+. Yn ystod y cyfarfod, rhannodd y dysgwyr ei phrofiadau a buddion y rhaglen ar ei fywydau a'i gweithle.
Ar ôl trafod y buddion y rhaglen a’r cyfleoedd sy’n dod trwyddo, gorffenodd Jeremy Miles drwy ddweud,
“os na allwn gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid Erasmus + yn y dyfodol, sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth gennym, bod gan Lywodraeth y DU gynllun ledled y DU mewn golwg. Ond y pwynt sylfaenol ... yw bod yn rhaid i'r Trysorlys ymrwymo cyllid er mwyn i hynny ddigwydd, ac, heb yr arian hwnnw, ni fydd yn gallu bod yn realiti.”
Ers 2014, mae Cymru wedi elwa o € 40.4m o gyllid o'r rhaglen Erasmus+, ac yn gynharach eleni, sicrhaodd ColegauCymru €1.57m arall o gyllid Erasmus+ ar gyfer colegau AB yn 2019/21. Bydd yr arian hwn yn galluogi dros 640 o ddysgwyr galwedigaethol, prentisiaid a staff o golegau ledled Cymru i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi cyffrous mewn 12 gwlad Ewropeaidd.
Roedd ColegauCymru yn falch o'r ymateb diweddar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, i ymholiad am drefniadau wrth gefn Llywodraeth y DU ar gyfer Erasmus+, gan nodi:
“Byddai unrhyw gynigion sy’n methu cydnabod cyfraniad pwysig Erasmus + i addysg dechnegol a galwedigaethol yn annerbyniol i Lywodraeth Cymru”.
Mae ColegauCymru yn parhau i eirioli fuddion Erasmus+ i ddysgwyr galwedigaethol gyfoethogi eu haddysg ac ehangu eu gorwelion.
Ymhlith y dysgwyr a elwodd o Erasmus+ a fynychodd y cyfarfod roedd: Briony Morgan a Shane Ash, Tata Steel apprentices, Alex James Jones, The College Merthyr Tydfil, Megan O’Brien a Aaron Tyner, Cardiff and Vale College, Ryan Jones and Scott Richards