Symudedd Staff Erasmus+ i’r Eidal

Heddiw, bydd deunaw o gynrychiolwyr o golegau a sefydliadau AB ledled Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfod briffio i drafod symudedd staff Erasmus+ i Pistoia, yr Eidal, ar ddydd Mercher 9 Hydref.

Sicrhaodd ColegauCymru gyllid Erasmus+ ym mis Chwefror 2018, ar gyfer prosiect symudedd staff ledled Cymru i archwilio rhyngwladoli mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) yn yr Eidal a'r Ffindir. Ymwelodd pymtheg o gynrychiolwyr o Gymru â'r Ffindir ym mis Tachwedd 2018, a bydd yr ymweliad â'r Eidal yn gyfle i adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd o'r Ffindir.

Bydd y ddirprwyaeth yn cael ei chroesawu gan y cwmni cynhaliol CSCS, sydd wedi cydweithio â nifer o golegau ar brosiectau dysgwyr Erasmus+. Byddant yn gweld yn uniongyrchol sut mae CSCS yn adeiladu gallu yn rhanbarthol a gyda chyflogwyr, i groesawu ymweliadau symudedd mewnol gan ddysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid o bob rhan o Ewrop. Bydd hefyd yn gyfle i gael trosolwg o system addysg yr Eidal, gan ganolbwyntio ar statws a darpariaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a chymwysterau galwedigaethol.

Dywedodd Siân Holleran, Cydlynydd Rhyngwladol ColegauCymru:

“Mae hwn yn gyfle gwych i staff o'r sector AB gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) cyffrous ac arloesol dramor. Bydd cyfle gan y cynrychiolwyr i gael persbectif newydd ar symudedd dysgwyr galwedigaethol, a sut mae'n gwella ac yn cyfoethogi'r profiad dysgu.”

“O ystyried yr ansicrwydd gwleidyddol ynghylch perthynas y DU â’r UE yn y dyfodol, rydym yn awyddus i sicrhau bod cyfleoedd hanfodol fel hyn yn aros yn agored i’r sector addysg bellach yn y blynyddoedd i ddod.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y symudedd sydd ar ddod, neu i gael y newyddion diweddaraf gan AB, Dysgu yn y Gweithle a Sgiliau, dilynwch @ColegauCymru ar Twitter.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.