Mae ColegauCymru wedi derbyn cyllid Taith Llwybr 2 i gynnal prosiect rhyngwladol i gryfhau llais y dysgwr mewn Addysg Bellach yng Nghymru. Bydd canfyddiadau allweddol y prosiect hwn yn cael eu defnyddio i lunio safbwynt polisi ColegauCymru ar gryfhau systemau llais y dysgwr mewn ymateb i flaenoriaethau strategol Medr.
Mae ColeguCymru am gontractio ymgynghorydd annibynnol i weithredu fel ymchwilydd i arwain ar ddatblygu allbynnau’r prosiect sef:
- adroddiad ymchwil yn amlygu cryfderau allweddol systemau llais y dysgwr yn yr Iseldiroedd, Norwy a Gwlad y Basg, Sbaen; a
- set o egwyddorion lefel uchel o arfer da ar gyfer datblygu systemau llais y dysgwr yn seiliedig ar y dysgu a gafwyd o'r tair gwlad Ewropeaidd a astudiwyd.
Bydd gofyn i'r ymgynghorydd gymryd rhan mewn ymweliad astudio â'r Iseldiroedd ym mis Medi 2025.
Gwybodaeth Bellach
Ceir manylion pellach ac amserlen yma:
Cais am Ddyfynbris: Cryfhau llais y dysgwr mewn Addysg Bellach
Ceisiadau i'w cyflwyno erbyn 10.00yb dydd Mawrth 6 Mai 2025.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd y Prosiect, Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk