Cais am Ddyfynbris: Rhyngwladoli yn y sector addysg bellach yng Nghymru

pexels-thisisengineering-3862627.jpg

Mae ColegauCymru yn gwahodd cynigion gan sefydliadau i gynnal ymchwil yn y sector addysg bellach i sefydlu statws cyfredol rhyngwladoli, i benderfynu beth sydd angen ei sefydlu i ddatblygu rhyngwladoli ymhellach ac i wella sut mae'r sector yn cyfleu ei uchelgeisiau rhyngwladol yn y dyfodol i gynulleidfa fyd-eang.

Mae ColegauCymru yn bwriadu ffurfioli ymrwymiad y sector i gydweithrediad rhyngwladol drwy ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y sector fel bod rhyngwladoli, yn y tymor hir, yn rhan annatod o'r cwricwlwm addysg bellach.

Dylid anfon y cynigion drwy e-bost at  sian.holleran@colegaucymru.ac.uk erbyn 5.00yp, Ddydd Llun 1 Mawrth 2021. Mae tîm y prosiect yn croesawu ymholiadau am y dyfynbris hwn hyd at Ddydd Gwener 26 Chwefror 2021. Ni fydd gohebiaeth nac ymholiadau’n cael sylw yn ystod y cyfnod pan wneir penderfyniad am y contract.

Cais am Ddyfynbris: Rhyngwladoli yn y sector addysg bellach yng Nghymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.