Mewn partneriaeth â Chyngor Rhanbarthol Llydaw a Llywodraeth Cymru, mae ColegauCymru yn falch o gynnal digwyddiad ar-lein yr Hydref hwn a fydd yn myfyrio ar y cyfleoedd symudedd peilot o Gymru i Lydaw a gynhaliwyd ar ddechrau 2020.
Er bod pandemig Covid19 wedi atal pob un ond un o weithgareddau'r dysgwr rhag digwydd, cynhaliwyd ymweliadau paratoadol a sefydlwyd cysylltiadau'n llwyddiannus rhwng staff.
Bydd y digwyddiad adolygu rhyngweithiol hwn yn rhoi cyfle i fynychwyr:
- adnewyddu'r cysylltiadau a wnaed rhwng staff yng Nghymru a Llydaw;
- cynnal ac adeiladu ar y partneriaethau sefydliadol a ddatblygwyd; a
- archwilio rhai syniadau ‘rhith-symudedd’ cyn y bydd symudoleddau ‘corfforol’ yn y dyfodol yn bosibl unwaith eto.
Gwybodaeth Allweddol
Dyddiad: Dydd Llun 27 Medi 2021
Amser: 2.00pm - 4.00pm
Rydym yn edrych ymlaen at ddal i fyny gyda'n cydweithwyr ddiwedd mis Medi.
Gwybodaeth Bellach
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer cynulleidfa wahoddedig yn unig.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol, Sian Holleran: Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk