Mae ColegauCymru wrth ein bodd i gadarnhau y bydd ein Cynhadledd Flynyddol yn cael ei chynnal ddydd Iau 5 Tachwedd 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Daw Cynhadledd eleni ar adeg hollbwysig i addysg bellach yng Nghymru. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ychydig fisoedd ar ôl Etholiad y Senedd, yn canolbwyntio ar Wneud yr Achos dros Newid: blaenoriaethau addysg bellach ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru.
Gan ddod â dros 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant o bob cwr o Gymru a thu hwnt ynghyd, bydd y Gynhadledd yn darparu cyfle amserol i lunio'r sgwrs ynghylch dyfodol y sector.
Bydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Llywodraeth Cymru, Cefin Campbell AS, yn annerch y gynhadledd, ac rydym yn falch o groesawu Agored Cymru fel ein prif noddwr unwaith eto, gan barhau â'u cefnogaeth werthfawr i'r sector a’r digwyddiad blaenllaw hwn.
Trwy raglen o drafodaethau panel, gweithdai rhyngweithiol a chyfleoedd rhwydweithio, bydd cynrychiolwyr yn archwilio sut y gall colegau fod wrth wraidd agenda Llywodraeth newydd Cymru gan gefnogi dysgwyr, cryfhau cymunedau, a gyrru twf economaidd ledled Cymru.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Tachwedd.
Gwybodaeth Bellach
Am wybodaeth yn ymwneud â'r Gynhadledd neu gyfleoedd noddi, cysylltwch â Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk