Ymweliad ymdrochol i Wlad Thai i hyfforddi staff addysg bellach i drefnu ac arwain ymweliadau dramor pell i ddysgwyr

Thailand Snip (1).png

Mae ColegauCymru yn falch o fod yn hwyluso ymweliad i Wlad Thai fis Mawrth eleni gyda’r ffocws o helpu staff i ddeall y cynllunio a’r logisteg sydd ynghlwm wrth drefnu ymweliadau a theithiau dramor pell. 

Wedi'i ariannu trwy Raglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Taith, bydd 17 o staff o golegau ledled Cymru yn teithio i Wlad Thai i elwa ar hyfforddiant arloesol. Mae rhaglen ColegauCymru wedi’i dylunio mewn partneriaeth â Challenges Abroad, sefydliad sydd â chenhadaeth i danio tosturi a chreu cenhedlaeth newydd o Ddinasyddion Byd-eang, a bydd yn canolbwyntio ar ddinasyddiaeth fyd-eang, paratoi staff a datblygiad personol. 

Nod y rhaglen hon yw: 

  • rhoi cyfle i staff i elwa o ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant ar gyfer arweinyddiaeth symudedd; 

  • galluogi staff i brofi'r symudedd a deall y cynllunio a'r logisteg dan sylw; 

  • sicrhau bod staff yn teimlo'n hyderus i arwain symudiadau gan ymdrin â phob elfen o symudedd o gynllunio, i deithio, i adlewyrchu ar ôl y daith; 

  • amlygu a pharatoi ar gyfer yr heriau a ddaw yn sgil teithio dramor; a 

  • trafod manteision symudedd a sut i wneud y mwyaf o gyfleoedd gan archwilio cwmpas a strategaeth ryngwladol. 

Bydd yr ymweliad yn rhoi ystod o brofiadau trochi i gydweithwyr, o ymweld â phentrefi a chymunedau ethnig anghysbell i wella eu dealltwriaeth o ddiwylliant Thai i fynd ati i weithio mewn parc natur eliffantod! Y nod yw y bydd y profiadau hyn yn helpu dysgwyr i dyfu fel dinasyddion byd-eang a chyfrannu at greu byd gwell a thecach! 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran, 

“Mae hwn yn gyfle gwych i gydweithwyr addysg bellach  ymgolli’n llwyr mewn rhaglen o weithgareddau ac wedi'u cynllunio i adeiladu eu hyder wrth drefnu ac arwain symudiadau tramor. Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn cryfhau ein partneriaeth â Challenges Abroad gyda’r nod o ymestyn y cyfleoedd cyffrous hyn i fwy o ddysgwyr addysg bellach yng Nghymru.” 

Ychwanegodd Rheolwr Prosiect Challenges Abroad Lizzie George, 

“Rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â ColegauCymru a Taith unwaith eto. Rydyn ni’n frwd dros ddarparu profiadau gwerthfawr a chofiadwy i ddysgwyr gyda’r bwriad o ddod yn ddinasyddion byd-eang, a helpu i’w rhoi ar lwybr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chyfrannu at fyd gwell.” 

Gwybodaeth Bellach 
 
Challenges Abroad
Cymuned fyd-eang o bobl sy'n gofal 

Taith 
Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru 

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk  

Vicky Thomas, Cynorthwyydd Gweinyddol Rhyngwladol ColegauCymru 
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.