Cyfleoedd ariannu Partneriaeth Cymru Fyd-eang ar gyfer colegau addysg bellach

global.jpeg

Mae ColegauCymru yn falch o rannu manylion cyllid partneriaeth Cymru Fyd-eang, sydd â’r nod o feithrin cydweithrediadau rhyngwladol rhwng colegau a phrifysgolion Cymru mewn rhanbarthau blaenoriaeth dynodedig. 

Mae'r fenter yn cynnig cyfle i sefydliadau Cymreig sicrhau hyd at £5,000 fesul prosiect gyda phrosiectau a fwriedir i sefydlu partneriaethau rhyngwladol cynaliadwy a hirdymor trwy gydweithrediadau tymor byr sy'n cael eu gyrru gan ganlyniadau. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran, 

“Mae’r fenter hon yn gyfle arwyddocaol i golegau Cymru wella eu hymgysylltiad byd-eang a meithrin cydweithrediadau rhyngwladol, effeithiol. 

Rydym yn annog colegau addysg bellach o bob rhan o Gymru i fanteisio ar y cyfle hwn i adeiladu a chryfhau eu partneriaethau rhyngwladol, gan gyfrannu at y gymuned ddysgu fyd-eang a gwella canlyniadau addysgol.” 

Gallai prosiectau cymwys ganolbwyntio ar feithrin gallu, mentrau addysgu ar y cyd, neu drefnu gweithdai, symposia, a digwyddiadau perthnasol eraill. Mae’r rhanbarthau blaenoriaeth ar gyfer y partneriaethau rhyngwladol hyn yn cynnwys: 

  • Yr UDA 
  • Canada 
  • Fietnam 
  • Karnataka, India 
  • Telangana, India 

Gall sefydliadau wneud cais am gyllid drwy gyflwyno cynigion manwl sy'n cynnwys amcanion penodol, gweithgareddau, a chanlyniadau disgwyliedig y tu hwnt i sefydlu cysylltiadau cychwynnol yn unig. Anogir ceisiadau i alinio â meysydd diddordeb allweddol megis trawsnewid digidol, ynni gwyrdd a datgarboneiddio, amaeth-dechnoleg, diwydiannau creadigol, iechyd y boblogaeth, a deunyddiau a gweithgynhyrchu, ymhlith eraill. Fodd bynnag, croesewir prosiectau y tu allan i'r meysydd blaenoriaeth hyn hefyd. 

Mae'r broses ymgeisio ar agor tan 14 Gorffennaf 2024, a disgwylir i brosiectau gael eu rhoi ar waith rhwng Awst a Rhagfyr 2024. 

Gwybodaeth Bellach 

Dylai’r sefydliadau â diddordeb gyfeirio at y Cylch Gorchwyl manwl i gael canllawiau llawn ar ofynion prosiectau ac amodau ariannu. Dylid cyflwyno ffurflenni cais wedi'u cwblhau a thempledi cyllideb i Bill Burson, Pennaeth Partneriaethau Cymru Fyd-eang, drwy e-bost at bill.burson@uniswales.ac.uk

Am fanylion llawn a ffurflenni cais, ewch i dudalen ariannu partneriaeth Cymru Fyd-eang

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.