Hwb cyllid yn sicrhau cyfleoedd dysgu a gwaith tramor newydd i ddysgwyr addysg bellach

pexels-charlotte-may-5966011 2.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid ar gyfer addysg bellach ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) trwy'r Cynllun Turing, rhaglen fyd-eang y DU i astudio a gweithio dramor. 

Bydd y gyllideb gymeradwy o bron i £1.5m yn rhoi cyfle i ddysgwyr mewn addysg bellach o bob rhan o Gymru ddysgu a gweithio dramor. Gall y cyfleoedd ddod â buddion newid bywyd i'r rhai sy'n cymryd rhan. Ar gyfer ColegauCymru, mae'r cyllid hwn yn caniatáu inni gefnogi ein haelodau i gynnig profiad unigryw i'w dysgwyr, yn ogystal â datblygu partneriaethau newydd a chysylltiadau rhyngwladol. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru Sian Holleran,

“Mae hyn yn newyddion hynod galonogol, yn enwedig yng nghyd-destun yr ansicrwydd a ddaeth yn sgil Brexit ac yn fwy diweddar, pandemig Covid19. Rydym wedi hyrwyddo gwerth rhaglenni symudedd ar gyfer dysgwyr galwedigaethol ers amser maith ac rydym yn falch o gael cymeradwyo'r cyllid.”

Gall cyfranogwyr, gan gynnwys y rhai sy'n astudio cymwysterau Safon Uwch, ddisgwyl profi cyfleoedd newid bywyd a phrofiad ymarferol mewn amgylchedd newydd a fydd o fudd i'w CVs. Bydd y sgiliau a enillir yn dod â phersbectif newydd i'w gwaith ac yn eu helpu i sefyll allan o'r dorf. 

Ychwanegodd Dirprwy Gadeirydd ColegauCymru Simon Pirotte,

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllideb ariannu o bron i £1.5m a fydd yn rhoi profiadau bywyd i gynifer o ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru na fyddent efallai fel arall yn cael cyfle i'w profi. 

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol i raglenni cyfnewid rhyngwladol, yn anad dim oherwydd effaith Brexit a phandemig Covid19, a deimlwyd yn ddifrifol ar draws ein colegau. Mae'r cyfleoedd cyffrous hyn i gyfoethogi a gwella profiadau dysgu yn rhan allweddol o'r profiad addysg bellach."

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg yr Adran Addysg 
40,000 students to study across the globe as part of new Turing Scheme 
4 Awst 2021 

Cynllun Turing Llywodraeth y DU - Rhaglen fyd-eang y DU i astudio a gweithio dramor 
Turing Scheme FE and VET Funding
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.