Dychwelodd grŵp o ddysgwyr Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig o’r Coleg Merthyr Tudful yn ddiweddar o ymweliad trawsnewidiol 16 diwrnod â Dubai, a ariannwyd gan Gynllun Turing Llywodraeth y DU.
Wedi’i drefnu drwy brosiect consortiwm rhyngwladol ColegauCymru, rhoddodd yr ymweliad fewnwelediad ymarferol i ddysgwyr i’r diwydiant adeiladu byd-eang, gorolwg ddiwylliannau newydd, a chyfle unigryw i ddatblygu hyder, annibyniaeth a dyheadau ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.
Wedi'u trochi mewn diwylliant newydd, ymwelodd y dysgwyr â chwmnïau adeiladu mawr ac ennill medrau bywyd a chyfrifoldeb trwy fyw'n annibynnol. Roedd gwibdeithiau diwylliannol, gan gynnwys ymweliadau â Mosg Fawr Abu Dhabi, anturiaethau anialwch a thwyni tywod, caiacio ac ymweliad â Ferrari World, yn ategu eu dysgu proffesiynol.
Dywedodd Pennaeth Gweithgynhyrchu Uwch ac Amgylchedd Adeiledig Y Coleg Merthyr Tudful, Jonathan Davies,
“Os yw unrhyw goleg neu unrhyw sefydliad yn dymuno meithrin dinasyddiaeth fyd-eang ar unrhyw lefel, dyma’r ffordd orau o wneud hynny. Gallwch eistedd yng nghyffiniau adeilad a gwylio fideos, ond mae ymgolli yn niwylliant cenedl arall a’i gofleidio, yn gwbl wahanol. Mae’n dod â lefel o ymwybyddiaeth na allwch ei haddysgu.”
Ychwanegodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran,
“Mae’n wych gweld dysgwyr yn cael profiadau gwerthfawr o’n symudiadau tramor. Mae ymweliadau fel yr un â Dubai yn helpu i ehangu gorwelion, ehangu sgiliau allweddol ac yn dod â buddion - nid yn unig i’r dysgwyr sy’n cymryd rhan, ond hefyd i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru.”
Y Coleg Merthyr Tudful yn hyrwyddo llwybrau gyrfa hyblyg
Mae'r cwrs Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig yn Y Coleg Merthyr Tudful yn dod yn fwy poblogaidd gyda dysgwyr gwrywaidd a benywaidd. Ymrestrodd dysgwyr benywaidd, Nika a Darcy, ar y cwrs yn dilyn cyflwyniad yn eu hysgol uwchradd gan staff y coleg; dywedasant fod y cwrs wedi'i gynllunio i ddarparu llwybrau gyrfa hyblyg i ddysgwyr sy'n gweddu i'w dyheadau unigol ac a allai arwain at yrfaoedd sy'n talu'n dda mewn pensaernïaeth, tirfesur a rheoli prosiectau. Mae un dysgwr, Tristan, ar hyn o bryd yn gwneud cais am le mewn prifysgol i astudio pensaernïaeth tra bod dysgwr arall, Sam, yn gobeithio dechrau prentisiaeth mesur meintiau.
Barn y dysgwyr
Disgrifiodd Tristan Dubai fel "un o'r lleoedd gorau yn y byd" a "dinas o'r dyfodol" gyda Sam yn adleisio'r teimlad, gan nodi, "Does dim byd yn cymharu â Dubai." Ychwanegodd dysgwr arall, Nika, fod yr ymweliad “wedi rhoi hwb sylweddol i’w hyder ac wedi rhoi rhyddid iddi”.
Dyheadau ar gyfer y dyfodol
Mae’r ymweliad ysbrydoledig hwn â Dubai nid yn unig wedi ehangu safbwyntiau dysgwyr ar yrfaoedd adeiladu byd-eang ond hefyd wedi sbarduno ymdeimlad newydd o uchelgais a hyder yn eu llwybrau yn y dyfodol. Mae cyfleoedd fel hyn - a wnaed yn bosibl trwy raglenni symudedd a ariennir - yn cael effaith barhaol, gan helpu i lunio gweithwyr proffesiynol brwdfrydig, byd-eang sy'n barod i ffynnu yng Nghymru a thu hwnt.
Gwybodaeth Bellach
Dysgwch fwy am Gynllun Turing Llywodraeth y DU
Cynllun Turing yw rhaglen fyd-eang llywodraeth y DU ar gyfer astudio a gweithio dramor. Wedi’i lansio yn 2021 yn lle Erasmus+, mae’n darparu cyllid i fyfyrwyr, dysgwyr, a disgyblion mewn sefydliadau yn y DU i gymryd rhan mewn cyfleoedd addysg a hyfforddiant rhyngwladol.
Taith - Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd.
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk