Mae Rhaglen Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gyfranogwyr astudio, gweithio, gwirfoddoli, addysgu a hyfforddi dramor yn Ewrop.
Mae lleoliadau gwaith yn gydnaws â chymwysterau dysgwyr yng Nghymru ac yn cynnig profiadau newid bywyd i bobl ifanc nad ydynt erioed wedi ystyried cyfleoedd cyflogaeth y tu hwnt i Gymru. Mae darlithwyr addysg bellach, arweinwyr a staff cymorth hefyd yn cymryd rhan mewn cyfleoedd DPP lle mae cyfle i rannu syniadau ac arfer da o dramor i gefnogi gwelliannau ar lefel strategol i strwythurau addysg a hyfforddiant galwedigaethol Cymru.
Mae colegau Cymru yn cydnabod bod arfer da a syniadau newydd yn bodoli mewn mannau eraill ac yn parhau i archwilio gwahanol ddulliau a syniadau ynghyd â sefydlu partneriaethau newydd â'u cymheiriaid yn Ewrop.
Mae ColegauCymru yn falch o arwain ar ddarparu cyfleoedd datblygu i ddysgwyr a staff trwy gyllid Erasmus+. Rydym hefyd yn gweithio fel llais i golegau addysg bellach wrth i ni eu cynrychioli ar Grŵp Cynghori Gweledydd Erasmus+ a Grŵp Ymgynghorol y Sector.
Trwy ein briff Ehangu gorwelion: Buddion rhaglen Erasmus+ i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, edrychwn ar y buddion y mae'r rhaglen wych hon yn eu cynnig i ddysgwyr a staff fel ei gilydd. Rydym hefyd yn edrych yn agosach ar yr hyn sy’n wynebu dyfodol y rhaglen mewn byd ansicr ôl-Brexit.
Darllenwch y Briff
Ehangu gorwelion: Buddion rhaglen Erasmus+ i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru
Gwybodaeth Bellach
Siân Holleran
Rheolwr Proseict Ewropeaidd a Ryngwladol ColegauCymru
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk