Erasmobility - Cyfarfod Trawswladol 2

Ym mis Mehefin 2020, bydd Sian Holleran a Hannah Murray, ColegauCymru, yn teithio i Sbaen ar gyfer ‘Cyfarfod Rhyngwladol 2’ o’r prosiect ‘Erasmobility’. Mae hwn yn brosiect Erasmus+ Cam Allweddol 2 dan arweiniad CIPFP La Costera, coleg galwedigaethol yn Xativa ger Valencia. Mae ColegauCymru yn un o naw partner yn y prosiect sy'n cynnwys Sbaen, Ffrainc, Gwlad Groeg, Iwerddon, Portiwgal, yr Almaen, Rwmania a Gwlad Belg.

Dyluniwyd y platfform Erasmobility i adeiladu partneriaethau rhwng colegau galwedigaethol ledled yr UE er mwyn cynyddu symudedd dysgwyr a staff.

Cyn y cyfarfod ym mis Mehefin, bydd Sian a Hannah yn gweithio gyda rhai o'r colegau AB yng Nghymru i werthuso'r platfform Erasmobility cyfredol, ac i gasglu adborth ganddynt ar sut y gellid ei wella i ddiwallu eu hanghenion yn well. Yna, bydd yr adborth gan bartneriaid y prosiect yn cael ei drafod yn y cyfarfod ym mis Mehefin a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sut i wella'r platfform.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.