Galwad am Leisiau Creadigol: Cystadleuaeth Newydd i Ddysgwyr Ifanc ledled y DU

global.jpeg

Mae ColegauCymru yn bartner ym mhrosiect Youth & Skills Europe, gan weithio ochr yn ochr â'r Education and Training Foundation (ETF) a phartneriaid o bob cwr o'r DU. Fel rhan o'r prosiect, mae cystadleuaeth ledled y DU bellach wedi'i lansio ar gyfer pobl ifanc 16-30 oed sy'n cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) ar hyn o bryd.

Mae'r gystadleuaeth yn gofyn i ddysgwyr ymateb yn greadigol i'r cwestiwn:

"Sut mae pobl ifanc yn y DU yn elwa o well cysylltiadau ag Ewrop?"

Gellir cyflwyno ceisiadau mewn unrhyw fformat creadigol, gan gynnwys gwaith celf, ffilm, ysgrifennu, barddoniaeth, ffotograffiaeth neu hyd yn oed rysáit.

Gwobrau gwych ar gael

Mae hwn yn gyfle unigryw i bobl ifanc gael eu lleisiau wedi eu clywed ac arddangos eu creadigrwydd ar lwyfan cenedlaethol. Bydd enillydd yn cael ei ddewis o bob un o bedair gwlad y DU.

Mae'r wobr ar gyfer pob enillydd cenedlaethol yn cynnwys:

  • Taith i Frwsel yn gynnar yn 2027, gan gynnwys ymweliad â Senedd Ewrop
  • Presenoldeb yn y Manchester Youth Dialogue ar 5-6 Tachwedd 2026, lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi'n swyddogol
  • Y cyfle i gynrychioli eu cenedl fel rhan o fenter ymgysylltu ieuenctid ledled y DU

Gwybodaeth allweddol

  • Ar agor i: Pobl ifanc 16-30 oed sydd mewn VET ar hyn o bryd
  • Dyddiad cau: 9 Hydref 2026
  • Fformat: Unrhyw gyfrwng creadigol
  • Gwobr: Taith i Frwsel a phresenoldeb yn nigwyddiad Deialog Ieuenctid Manceinion

Gellir gweld manylion llawn, canllawiau mynediad a gwybodaeth am gyflwyno trwy sganio'r cod QR.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.