ColegauCymru i fod yn bartner ym mhrosiect newydd Cam Allweddol 2 Erasmus+

Yr wythnos diwethaf, mynychodd ColegauCymru gyfarfod prosiect cyntaf KA2 Erasmus+ yn Bremen, yr Almaen. Dan arweiniad CIPFP La Costera, coleg galwedigaethol yn Xativa, Sbaen, nod y prosiect yw datblygu'r platfform Erasmobility ymhellach, a chynyddu nifer y partneriaethau addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) ar gyfer prosiectau Erasmus+ KA1. Mae ColegauCymru yn un o 9 partner yn y prosiect hwn, sy'n cynnwys Sbaen, Ffrainc, Gwlad Groeg, Iwerddon, Portiwgal, yr Almaen, Rwmania a Gwlad Belg.

Cynhaliwyd y cyfarfod deuddydd mewn coleg galwedigaethol yn Osterholz-Scharmbeck, lle cafwyd trafodaethau ar system alwedigaethol yr Almaen, amcanion y prosiectau a’r camau nesaf.

Bydd y prosiect hwn yn rhedeg rhwng 1 Rhagfyr 2019 a 28 Chwefror 2022 a bydd 6 cyfarfod rhyngwladol yn ystod yr amser hwn, gyda'r cyfarfod nesaf yn Valencia, Sbaen ym mis Mehefin 2020.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.