Mae ColegauCymru wedi cymryd cam sylweddol ar y llwyfan Ewropeaidd drwy ymuno ag EUproVET, corff cynrychioliadol blaenllaw ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) ledled Ewrop.
Mae EUproVET yn dwyn ynghyd gymdeithasau cenedlaethol ac yn chwarae rhan allweddol wrth lunio'r agenda Ewropeaidd ar gyfer sgiliau, addysg a datblygu'r gweithlu. Mae ei waith yn canolbwyntio ar gryfhau'r farchnad lafur gyda gweithlu medrus iawn, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cefnogi dysgu gydol oes, a chreu llwybrau clir i lefelau uwch o addysg o fewn ardal Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Ewropeaidd agored.
Mae aelodaeth ColegauCymru yn nodi ymrwymiad newydd i ymgysylltiad Ewropeaidd, gan gyd-fynd â dychweliad y DU i'r rhaglen Erasmus+. Bydd hyn yn ein galluogi ni - a'r colegau rydyn ni'n eu cynrychioli - i ddyfnhau partneriaethau â chymheiriaid Ewropeaidd, rhannu arfer gorau, a chyfrannu at ddylanwadu ar bolisi Ewropeaidd yn y sector Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol.
Drwy ymuno ag EUproVET, mae ColegauCymru yn sicrhau bod llais addysg bellach yng Nghymru yn cael ei glywed ar lefel Ewropeaidd, gan atgyfnerthu ein huchelgais i chwarae rhan weithredol wrth lunio dyfodol sgiliau ac addysg.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran,
“Mae ymuno ag EUproVET yn gam pwysig i ColegauCymru a’r sector addysg bellach yng Nghymru. Mae’n rhoi llwyfan gwerthfawr inni ymgysylltu â phartneriaid Ewropeaidd, rhannu arbenigedd a chyfrannu at drafodaethau polisi a fydd yn llunio dyfodol addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
“Wrth i ni ail-ymgysylltu â rhaglen Erasmus+, mae’r aelodaeth hon yn dangos ein bwriad clir i gryfhau cydweithio Ewropeaidd a sicrhau bod colegau Cymru yn rhan o’r sgwrs Ewropeaidd ehangach ar sgiliau, cynhwysiant a dysgu gydol oes.”
Gwybodaeth bellach
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk