ColegauCymru 2024: Myfyrdodau’r Flwyddyn

Christmas.jpg

Wrth i ni agosáu at ddiwedd 2024, mae ColegauCymru yn myfyrio ar flwyddyn brysur o gydweithio, dysgu ac eiriolaeth yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Yma, mae ein Prif Weithredwr, Dave Hagendyk, yn rhannu rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn. 

Mewnwelediadau Rhyngwladol Ymwelodd dirprwyaeth o arweinwyr addysg bellach â'r Ffindir i ddysgu o'i diwygiadau addysg alwedigaethol, gan ganolbwyntio ar ddysgu personol a gallu'r gweithlu i addasu. Ailadroddodd yr adroddiad a gomisiynwyd yn annibynnol Strategaethau ar gyfer Symud yn Rhydd - Ymagwedd y Ffindir at Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ein galwad ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth VET bwrpasol i Gymru. 

Digwyddiadau Chwaraeon Cynhwysol Drwy gydol y flwyddyn bu ein digwyddiadau Aml-Chwaraeon Addysg Bellach ac Ability Counts yn dathlu cyfranogiad dysgwyr ledled Cymru, gan feithrin gwaith tîm, iechyd meddwl da, a chynhwysiant drwy weithgarwch corfforol, gan wreiddio Strategaeth Llesiant Actif ColegauCymru ymhellach ar draws y sector. 

Dangos gwerth cymdeithasol addysg bellach yng Nghymru Mae ColegauCymru yn parhau i hyrwyddo effaith gymdeithasol colegau addysg bellach. Eleni lansiwyd ein hymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru sy’n nodi cyfraniad y sector at saith nod llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae gwerth cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn. 

Ymweliad staff Lles Actif â Slofenia Amlygodd ymweliad staff a ariannwyd gan Taith â Slofenia ym mis Mai pwyslais y genedl ar les actif ac iechyd meddwl trwy raglenni gweithgaredd corfforol strwythuredig, a’r dysgu y gellid ei roi ar waith ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru. 

Ymgysylltu ag Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Newydd Yn ystod yr haf a dechrau'r hydref penodwyd Prif Weinidog newydd a'i phrif dîm. Rydym wedi meithrin perthynas gref â Vikki Howells AS a Jack Sargeant AS yn eu swyddi gweinidogol newydd, ynghyd ag aelodau allweddol eraill o’r Senedd ar draws pob plaid. Bydd yr ymgysylltu hwn yn helpu i sicrhau bod addysg bellach yn parhau i fod yn ganolog i drafodaethau polisi a blaenoriaethau ariannu. 

Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru Ym mis Hydref cynhaliwyd ein Cynhadledd Flynyddol a Chinio. Daeth y digwyddiad ag arweinwyr sector ynghyd i ffocysu ar flaenoriaethau ar gyfer y degawd nesaf a thrafod themâu allweddol, gan gynnwys dyfodol polisi sgiliau ac addysg. Pwysleisiodd y digwyddiad rôl ganolog y sector wrth lunio tirwedd economaidd a chymdeithasol Cymru. 

Cynadleddau Blynyddol ADY a SBA Cynhaliwyd cynadleddau blynyddol llwyddiannus ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Sgiliau Byw'n Annibynnol. Daeth y digwyddiadau ag ymarferwyr ADY a SBA (ILS), a rhanddeiliaid eraill, ynghyd i ganolbwyntio ar beth mae colegau wedi ei ddysgu wrth iddynt barhau i weithredu’r Ddeddf ALNET. Roedd cyfleoedd hefyd i rannu arfer gorau ac edrych ymlaen. 

Ymgysylltu â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd ymweliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Cynigodd yr ymweliad i aelodau’r pwyllgor gael gwell dealltwriaeth o’r rôl y mae lles actif yn ei chwarae mewn addysg bellach a’r manteision hirdymor o gefnogi iechyd a lles dysgwyr addysg bellach yng Nghymru. 

Heriau Prentisiaethau Ynghyd â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) cyhoeddodd ColegauCymru ddata newydd sy’n amlygu canlyniadau economaidd a chymdeithasol pellgyrhaeddol toriadau cyllid prentisiaethau yng Nghymru. Amlygodd yr adroddiad Effaith Toriadau Cyllid Prentisiaethau, a gomisiynwyd yn annibynnol, fod rhaglen brentisiaethau cryf yn hollbwysig ar gyfer adferiad economaidd Cymru, ac i arfogi unigolion a busnesau â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. 

Prosiect Adolygu Llwyth Gwaith Addysg Bellach Cynhaliom gyfres o ddigwyddiadau llwyddiannus gan ddod ag arweinwyr ac ymarferwyr addysg bellach a chynrychiolwyr yr undebau llafur ar y cyd ynghyd i chwilio am atebion i fynd i'r afael â heriau llwyth gwaith ac i wella lles staff. 

Ymweliad Astudio The College Alliance Dangosodd ymweliad astudio ar y cyd â Choleg y Cymoedd arferion gorau wrth gefnogi dysgwyr ag anghenion amrywiol, gan bwysleisio cynhwysiant ac arloesedd wrth gyflwyno'r cwricwlwm. Daeth yr ymweliad â chydweithwyr o golegau a llywodraethau o bob rhan o Loegr, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ynghyd i rannu heriau a dysgu. 

Cyfarchion y Tymhorau oddi wrth ColegauCymru 

Dim ond cipolwg yw’r rhain o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ar ran y sector. Wrth i flwyddyn brysur a chynhyrchiol arall ddod i ben yng ColegauCymru, rydym yn estyn ein diolch o galon i’n cydweithwyr a’n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth a’u partneriaeth barhaus. 

Dymunwn wyliau Nadolig pleserus a blwyddyn newydd hapus ac iach i chi, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi yn 2025. 

Dave Hagendyk a Thîm ColegauCymru.

Gwybodaeth Bellach 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.