Dysgwyr Coleg Ceredigion ymhlith y cyntaf i fanteisio ar ailddechrau cyfleoedd cyfnewid tramor

CanadaTrip.jpg

Mae dysgwyr o Goleg Ceredigion wedi bod ymhlith y cyntaf yng Nghymru i fanteisio wrth i gyfleoedd gyfnewid tramor ailddechrau - gydag ymweliad ag Alberta yng Nghanada.

Roedd yr ymweliad hir-ddisgwyliedig, a gafodd ei ohirio oherwydd cyfyngiadau a osodwyd gan bandemig Covid19, wedi ei wneud yn bosibl drwy grant gan Gynllun Turing a ariennir gan Lywodraeth y DU. Cynigodd y daith dramor y cyfle i ddysgwyr Coleg Ceredigion i archwilio sut y gellir gweithredu syniadau llwyddiannus a ddefnyddir gan system gofal iechyd cyhoeddus gwledig Alberta mewn ardaloedd anghysbell yng Nghymru.

Roedd myfyrwyr y Diploma Mynediad i Addysg Uwch Gwyddor Iechyd a myfyrwyr ail flwyddyn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Gampws Aberystwyth yn ymweld â Chalgary, Banff a Canmore hefyd wedi manteisio ar ddysgu am hyfforddiant nyrsio ôl-16 a sut mae system gofal iechyd Alberta yn addysgu staff yn fewnol.

Roedd cyfle pellach i weithio gyda grwpiau brodorol yng Nghanada i ddysgu am y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd.

Wedi iddynt ddychwelyd, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i arddangos yr arfer gorau y maent wedi'i ddysgu.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru Sian Holleran,

“Rydym mor falch o weld cyfleoedd cyfnewid yn ailddechrau ar gyfer dysgwyr a staff addysg bellach! Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawn gan brosiectau fel Cynllun Turing sy’n galluogi dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd tramor na fyddent efallai ar gael iddynt fel arall.”

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â’n Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran am ragor o fanylion am gyfleoedd posibl sydd ar gael i’ch coleg: sian.holleran@colegaucymru.ac.uk

Gwefan Cynllun Turing

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU, mae Cynllun Turing yn sicrhau parhad o waith gwerthfawr a chyfleoedd astudio dramor i ddysgwyr addysg bellach. Dyma raglen fyd-eang y DU i astudio a gweithio dramor gan ddarparu cyllid i bobl ifanc mewn colegau addysg bellach i dreulio amser yn byw, yn astudio neu’n hyfforddi ar draws y byd ac mae’n disodli’r Rhaglen Erasmus+ sefydledig.
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.