Digwyddiad Dathlu – Ymweliadau Tramor 2021/22

Group Sweden.jpg

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i ddigwyddiad ar-lein i ddathlu’r ymweliadau tramor gwych sydd wedi’u cynnal eleni drwy brosiectau Erasmus+ a Chynllun Turing ColegauCymru. 

Yn y sesiwn awr anffurfiol hon, bydd ein Rheolwr Prosiect Rhyngwladol, Sian Holleran, yn rhoi trosolwg o’r cyfleoedd gwych y mae dysgwyr coleg wedi’u cael ers mis Chwefror 2022, o ymweliad newid bywyd dysgwyr astudiaethau ceffylau ag un o ganolfannau marchogaeth gorau Sweden i fyfyrwyr ffotograffiaeth yn gwella eu sgiliau wrth deithio a phrofi diwylliant Sbaen. 

Byddwn yn clywed gan ddysgwyr a bydd hefyd gennym rai awgrymiadau da ar drefnu ymweliadau gan un o'n cydlynwyr symudedd prysuraf. 

Manylion y digwyddiad 

Dyddiad: Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022 
Amser: 2.30pm – 3.30pm 
Lleoliad: Ar-lein - MS Teams 

I gadarnhau eich presenoldeb, ebostiwch Vicky.Thomas@colegaucymru.ac.uk

Mae yna groeso i chi rannu’r gwahoddiad hwn o fewn eich sefydliad (staff a dysgwyr) i ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn prosiectau yn y dyfodol. 

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar 6 Gorffennaf. Yn y cyfamser, cysylltwch â Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk neu Vicky.Thomas@colegaucymru.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.