Dathlu cyflawniadau Erasmus+ ond dyfodol ansicr i'r rhaglen

pexels-haley-black-2087391.jpg

Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Erasmus+ eleni ar-lein ar 22 a 23 Medi 2020. Gyda dros 200 o gynrychiolwyr, canolbwyntiodd y digwyddiad ar effaith gadarnhaol y rhaglen dros y saith mlynedd diwethaf. 

Roedd y gynhadledd yn gyfle i glywed profiadau o bob rhan o'r sector addysg, i rannu arfer gorau ac i edrych yn agosach ar astudiaethau achos penodol. Ymunodd Cydlynydd Rhyngwladol a Rheolwr Prosiect ColegauCymru, Siân Holleran, arbenigwyr eraill yn y sector mewn trafodaeth banel i dynnu sylw ac i adolygu effaith systemig rhaglen Erasmus+ ar y sector addysg bellach (AB) yng Nghymru ers ei lansio yn 2014. Bydd cyllid ar gyfer y rhaglen fwyaf diweddar yn dod i ben yn 2020 ac felly roedd y Gynhadledd hefyd yn gyfle amserol i sefydliadau ledled y DU ddathlu ei chyflawniadau. 

Galluogi hyfforddiant a chynnig cyfleoedd i newid bywyd 
Yn ystod y cyfnod 2014 - 2020, mae ColegauCymru wedi llwyddo i ennill cyllid o dros €7 miliwn ar gyfer dysgwyr AB, prentisiaid a staff o golegau ledled Cymru i ymgymryd â phrofiadau gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd i astudio dramor. Rydym wedi llwyddo i ddatblygu rhwydwaith cryf o dros 40 o bartneriaid Ewropeaidd sy'n cydweithredu â'r sector i ddarparu cyfleoedd adeiladol ac, mewn rhai achosion, gyda’r gallu i newid bywydau! 

Ehangu dyheadau'r dyfodol 
Dengys ymchwil a wnaed gan ColegauCymru dros gyfnod o bedair blynedd bod cymryd rhan mewn rhaglenni Erasmus+ yn ehangu dyheadau dysgwyr yn y dyfodol. Mae profiadau wedi cynyddu rhagolygon swyddi dysgwyr, eu gallu i weithio gyda thasgau gyda mwy o gyfrifoldeb ac wedi cynnig y gobaith o weithio dramor yn y dyfodol. 

Llwyddiannau 
Mae yna nifer o enghreifftiau o’r gwerth y mae rhaglenni Erasmus+ wedi dod ag i ddysgwyr o bob rhan o Gymru, a dim mwy na dysgwr Teithio a Thwristiaeth o Grŵp Llandrillo Menai. Ymgymerodd â phrofiad gwaith pythefnos mewn chateaux win ger Bordeaux, gan ddweud, 

“Rwyf wedi dysgu sgiliau newydd ac mae’r profiad hwn wedi fy ngwneud yn berson mwy hyderus sydd ag awydd i weithio dramor yn y dyfodol. Roeddwn yn nerfus iawn cyn dechrau, ond dysgais y gallwn ei wneud ac mae hyn wedi cynyddu fy hyder yn fawr.” 

Pryderon Parhaus 
Er gwaethaf llwyddiant y Gynhadledd a’r rhaglen dros y 7 mlynedd diwethaf, mae ColegauCymru yn parhau i bryderu bod cyfranogiad y DU yn rhaglenni Erasmus+ yn y dyfodol yn ansicr o hyd, a fydd, heb os, yn rhoi’r cyfleoedd y mae’n eu rhoi i ddysgwyr yng Nghymru ar hyn o bryd yn y fantol. Mae ColegauCymru yn galw ar lywodraeth y DU i barhau i gymryd rhan lawn yn rhaglenni Erasmus+.  Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda chydweithwyr yn y llywodraeth a phartneriaid eraill i sicrhau bod hyn yn digwydd. 

Gwybodaeth Bellach 

Darllenwch fwy am y Gynhadledd: 
Cynhadledd Flynyddol Erasmus+ 2020 

Yn ystod y cyfnod 2014 - 2020

Mae ColegauCymru wedi llwyddo i ennill cyllid o dros €7 miliwn ar gyfer dysgwyr AB

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Rhyngwladol.